MR. ELLIS JONES, 16TH Street, 10TH AVENUE, NEW YORK.

Mehefin 27ain, 1858, Mr. Ellis Jones (Tailor,) Rhif. 86 W. 16th Street, ger y lOth Avenue, dinas New York, yn 72 mlwydd oed.

Claddwyd ef yn Greenwood y Mawrth canlynol. Yr oedd yn enedigol o wlad Lleyn, Arfon, Gogledd Cymru. Bu fyw am flyneddan yn Llangian, ac yn aelod flyddlon gyda'r Annibynwyr yn y Capel Newydd.

Ymfudodd i'r America gyda'i briod a thri o bìant er ys dros 32 mlynedd yn ôl. Bu yn aelod yn Broome Street. Bu yn afiach yn yr wyth mlynedd olaf o'i oes.

Gadawodd ei briod Mrs. Jones, a'i ferch Mrs. Denning, yn nghyd ag amrai berthynasau yn Steuben, i alaru ar ei ôl.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1858.