MR. ELLIS JONES, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ganwyd Ellis Jones yn y Dalar Gerwin, Penmachno, sef y rhan o'r plwyf a elwir Wybrnant, sef hen gartrefle Dr. Morgan.

Aeth i'r gweithfaoedd llechau, yn Ffestiniog, pan yn mlodeu ei ddyddiau.

Yn y flwyddyn 1812, ymunodd mewn priodas â Sarah Roberts, Muriau'r Gwifil, yr hon sydd eto yn fyw.

Yn 1831, ymfudasant i'r America. Yr oedd ei iechyd yn wanaidd cyn gadael Cymru, ond cafodd fyw na 27 o flynyddoedd yn y wlad hon, mewn mesur o lwyddiant. Yr oedd yn ddyn o dymher naturiol sirioì, tawel a digyffro. Ni flinid ef â'r anhwylder sydd yn blino llawer, sef rhagfarn at lwyddiant ereill.

Ymunodd â chrefydd yn y flwyddyn 1825, ac a'i dylynodd gyda ffyddlondeb di-fwlch y tu yma a thu draw i'r môr.

Yn y flwyddyn 1857 dewiswyd ef yn ddiacon yn eglwys y T. C. ar Quaker Hill, a bu yno yn swyddog derbyniol hyd ei symudiad i Utica. Nid oedd yn siaradwr ffraeth, ond dywedai i bwrpas, a gwyddai ei fesur yn well na llawer, ac ymogelai rhag gormesu ar deimladau, na swyddau, na meddiannau ei gyd-fforddolíon; ond cafodd ac ennillodd o'r byd, heb fod ochenaid y tlawd wedi ei orthrymu yn aros ar yr hyn a adawodd i'w berthynasau, fel y gallent ei fwynhau heb betruso ei fod yn ffrwyth hoced a thwyll.

Symudodd o'r naill wlad i'r llall, a thystiolaeth yn nghydwybodau a geneuau ei gydnabod mai tangnefeddwr cywir ydoedd. Symudodd o gymydogaeth i gymydogaeth yn America dan yr un cymeriad. Ystyriwyf y pethau hyn yn sicrach tystiolaeth o grefydd dda na chyffes o brofiad uchel heb fywyd crefyddol; ond nid oedd E. Jones heb brofiad uchel. Yr oedd ei agwedd ddifrifol a llawen yn gwrando, yn brawf ei fod yn profi fod ei enaid yn derbyn bendith; a byddai ei golli o'r gynulleidfa yn golled genym, am y byddai yn gyffredin yn effro a siriol yn gwrando, er ein bod yn gwybod fod gauddo deimlad pan fyddai gwirioneddau yr efengyl yn cael eu cymylu i raddau gan fyrdra ein doniau; eto yr oedd mwy o ddyn a Christion ynddo nag yr amcanai egluro i bawb ei annghymeradwyaeth o'r athraw a'i athrawiaeth, fel y gwna rhai sydd a'u chwaeth mor uchel (bid sicr) fel y mae eu cyrph yn dolenu i bob ystum, eu llygaid yn cau, a'u geneuau yn camu, gan bwys teimladau oerion a diystyr o'r genad a'i genadwri.

Ond rhag eich blino â meithder, fel y cyfryw bu farw yn dawel iawn; fel tywysen lawn ac addfed, mor awyddus am farw ag y byddai am fyned i'r cyfarfod yn ei fywyd. Bu farw mewn tangnefedd Medi 24ain, 1858, yn 75 mlwydd oed, gan adael gweddw, saith o blant, llawer o wyrion, a thorf o berthynasau, i aros yr alwad i fyned ar ei ôl; a'r Duw a roddodd iddo ef ddiwedd tangnefeddus a roddo iddynt hwythau oll y cyffelyb.
T. WILLIAMS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1858.