MR. JOHN JONES, SOUTH TRENTON, NEW JERSEY.
Chwefror 10fed, 1858, yn Deerfield, Mr. John Jones, Half Way.Claddwyd ef yn South Trenton, a gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y Parchn. John Hughes a Robert Littler.
Yr oedd yn enedigol yn Penmorfa ger Tremadog, swydd Gaernarfon. Ganwyd ef Mawrth 17eg, 1779.
Ymfudodd i'r America yn y flwyddyn 1801. Ymbriododd gydag Ann Jones o swydd Gaernarfon yn y flwyddyn 1803. Bu ganddynt 16 o blant, o ba rai y mae 12 yn fyw, a 4 wedi eu claddu.
Ymunodd ag Eglwyd Crist gyda'r Bedyddwyr yn Steuben yn y flwyddyn 1808, a pharhaodd yn ffyddlon hyd ei farwolaeth. Bu yng Nghymru unwaith yn ymweled a'i berthynasai tua 35 mlynedd yn ôl. Ymfudodd o Steuben i lawr i Deerfield tua 18 mlynedd yn ôl, lle y gorphenodd ei yrfa.
Yr oedd yn ddyn hynaws o ran ei natur, yn ddiwyd a gofalus, ac un a berchid yn fawr gan bawb o'i gydnabod; ni fynai ymryson â neb; yr oedd yn gywir o ran ei syniadau am grefydd; darllenai lawer wrtho ei hun ar y Beibl a llyfrau eraill.
Felly ymadawodd â'r byd hwn gan adael gwraig a 12 o blant i alaru ar ei ôl.