MR. MICHAEL JONES, DODGEVILLE, WISCONSIN.

Yn yr oes hon, pan y mae y wasg yn hau ar hyd a lled y wlad gynifer o gofieint am bob math, - yr holl deulu mawr anenwog yn gystal a chewri mewn enwogrwydd a defnyddioldeb, - nid rhyfedd fod cwynion trymion yn cael eu hanfon i - swyddfau ein Golygyddion, ya erbyn y mursendod hwn ar ein llenyddiaeth.

Pa mor ddistadl bynag y bu llawer yn eu bywyd, rhaid cael rhoddi un udganiad o'u mawredd wedi yr ymadawont â'r byd hwn, drwy gyfryngau ein misolion a'n hwythnosolion. Nis gallwn yn ein byw ymfoddloni i restru Mr. Michael Jones yn mysg y cyffredin, canys, yr ydym yn credu fod ynddo neillduolion a drwyddedant iddo ychydig o goffadwriaeth, er nad oedd ef wedi arfer bywyd cyhoeddus. Hyderwn y bydd ychydig o'i hanes o duedd fuddiol i'n cenedl yn y wlad hon, yn enwedig yr ieuenctyd, y rhai ydynt yn cyfarfod âg amryw demtasiynau nas gwyddant nemawr am danynt yn Nghymru.

Mab ydoedd Michael i Thomas a Hannah Jones, gynt o Gaernarfon, ond yn awr o ardal Picatonica, Wisconsin. Arferai ei dad fasnachu mewn llyfrau, a'u cario i chwarelwyr Arfon a Meirion. Nid braint fechan i wrthddrych ein cofiant oedd cael ei fagu mewn manteision llyfrol. Yr oedd ei fam yn gyfnither i'r Parch. Michael Roberts, Pwllheli.

Ei briod ydoedd Margaret, merch Richard Parry, gynt o Lanfflewyn, Môn.

Bu Mr. Jones farw Awst 11, 185S, yn 30 mlwydd oed. Ei glefyd oedd croniad yr afu. Yr oedd ei gladdedigaeth yn lluosog anarferol; cauwyd holl fasnachdai y dref ar y pryd; ystyrid ei farwolaeth fel trychineb annaturiol; teimlai pawb yn synedig; pryderwch a lanwai pob mynwes. " Michaël Jones wedi marw!" oeddynt y geiriau oerion a glywid o ganol ocheneidiau a dagrau lawer. Y Peirch. E. Owen, A. G. Roberts, a G. Jones, T. C, a'r Parch. Mr. Harvey, Gweinidog Saesnig, a weiniasant yn yr angladd. Pregethodd y Parch. G. Roberts, Gweinidog yr eglwys y perthynai Mr. Jones iddi, yn nodedig o gymhwys. Ei destyn oedd "Gwell yw myned i dŷ galar nag i dŷ gwledd." Nis gwelsom dŷ a mwy o alar ynddo na'r diwrnod hwnw.

Rhieni oedranus y marw, brawd a chwaer iddo, ei briod a'i rhieni hithau, ei brodyr a'i chwiorydd, yn nghyd a chyfeillion lawer, oeddynt yn ymrwygo mewn galar. Dyn bywiog, llawen a serchog oedd Mr. Jones. Medrai ef wenu heb ynfydu, dristâu heb fod yn daiogaidd. Gydag achos teilwng yr oedd yn bleser myned ar ei ofyn, ond os byddai yr achos yn wahanol nid oedd neb mwy anhawdd. Nid am ei fod yn ysgafn yr oedd yn fywiog; yr oedd ynddo bwysau, ond nid pwysau y gareg oedd; ac yr oedd ynddo fywiogrwydd, ond nid eiddo y gorphwyllyn mo hono. Yr oedd yn eithaf bywiog i ddweyd y gwir wrth bawb, ac yr oedd yn ddigon o bwysau i'w ddweyd yn ngwyneb pawb. Magodd ei garedigrwydd iddo luaws o gyfeillion ; achlysurodd ei ddiragrithrwydd iddo rai gelynion. Yr oedd yn gywir gyda phob peth.

Dyma dystiolaeth un o'i feistri: "Well, poor fellow, we shall never find his like again. We used to put the most implicit confidence in him, as if he was one of us."

Gwasanaethu mewn maelfo yr oedd, er ys tua chwe' blynedd. Fechgyn y Cymry! yr ydych yn heidio i'r stores; drwy fod yn onest yr enillwch ymddiried. Er mai ber fu oes ein cyfaill ymadawedig, yr oedd yn un hynod o flinderus. Gadawodd ei deulu pan oddeutu 14 mlwydd oed, i wynebu ar ddinasoedd mawrion Lloegr. Priododd y tro cyntaf pan yn ieuanc; collodd ei iechyd ei hun i raddau; claddodd ei wraig a'i unig blentyn y pryd hyny.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1858.