MRS. MARY ANN LLOYD, CAMBRIA, COLUMBIA, WISCONSIN.
Ebrill l4eg, 1858, yn Cambria, Wisconsin, yn 27 mlwydd oed, Mrs. Mary Ann, priod Mr. Robert Lloyd, o'r lle uchod.Merch ydoedd i Mr. Evan H. a Mrs. Mary Pritchard, Rhydynogfelen, ger Caernarfon, Gogledd Cymru, o'r hwn le yr ymfudodd gyda'i rhieni tua deg mlynedd yn ôl. Ei chlefyd angeuol oedd y Cholera Morbus. Tua phedair awr y bu yn glaf. Gadawodd un baban i ychwanegu at restri yr amddifaid, pa rai yr addawodd yr Arglwydd eu cadw yn fyw. Yr oedd yn arddel Crist, ac yn aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y lle hwn. Ar amserau, byddai yn sefyll ar dir uchel mewn profiad crefyddol. Yr ydoedd ganddi feddwl cryf mewn corph eiddil. Bu yn helaethach eu llafur na'r cyffredin, ac mewn canlyniad yr oedd yn helaethach ei gwybodaeth. Rhoddodd draethawd rhagorol Dr. Lewis Edwards, ar "Gysondeb y Ffydd," dawelwch mawr iddi am yr hyn y petrusai gynt.
Ychydig a allodd ddweyd yn ei chystudd olaf, am ei gobaith, a.y.; ond yr oedd y rhai a'i hadwaenent mewn iechyd, wedi gwneyd eu meddwl i fyny amdani ei bod yn meddu yr elw mawr.
Hebryngwyd ei gweddillion marwol, gan dyrfa luosog, i dŷ ei hir gartref, yr hwn sydd ychydig i'r De-orllewinol o Cambria, lle y gorphwys lluaws o'r Cymry, ac yn eu mysg yr oedd mam a brawd a chwaer iddi hithau - yno y cyd-orphwysant yn ddigymdeithas, nes cano udgorn Duw.