MR. ELLIS HUMPHREYS, CINCINNATI.
Ar y 18fed o Fedi diweddaf, ELLIS HUMPHREYS, mab Humphrey Ellis, o'r Plâs Newydd, plwyf Llanfrothen, swydd Feirionydd, o fath o dwymyn, yn dra disymwth, a chladdwyd ef yn mynwent tref Cairo, yn ymyl arllwysiad yr Ohio i afon Mississippi, yn y 38 flwyddyn o'i oedran.Gadawodd Richard, ei frawd, a Jennet Ellis, ei fodryb, i'r hon yr ydoedd megys cefn yn ei chynnaliaeth, ac amrai o berthynasau eraill, yn Cincinnati, i alaru ar ei ol.
Yr oedd y trangcedig yn adnabyddus i laweroedd o bregethwyr y Trefnyddion Calfinaidd pan yn ieuangc, oblegid iddo gael ei fagu yn yr Ysgol Sabbothol, a'r Gymdeithas Neillduol, hyd nes yr ymadawodd â Chymru.
Daeth i'r wlad hon er ys llawer o flynyddoedd yn ol. Yr oedd yn ddarllenydd tra diwyd, yn enwedig y Beibl. Dysgai, a galwai idd ei gof yr hyn oedd eisoes wedi eu dysgu, ar y Sabbothau, pan na allai gael moddion Gras. Yr oedd yn aelod selog o'r Gymdeithas Ddirwestol; ac ystyriai ei hun yn aelod o Gymdeithas Neillduol ychwanegol y Trefnyddion Calfinaidd - yn dra haelionus atynt oll. Dangosai lawer o barch i weinidogion yr Efengyl, fel yr ydoedd yn esiampl i lawer o'i gyfoedion. - Yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angeu. - 'Am hyny byddwch chwithau barod.'
E. JONES. Cìncinnati.