MRS. MARGARET ISAAC, LEE, ONEIDA, EFROG NEWYDD.
Ion. 25ain 1840, Yn Lee, Oneida, C. N., yn y ddeugeinfed flwyddyn o'i hoedran, wedi deng niwrnod o gystudd, ar enedigaeth plentyn, Margaret Isaac, genedigol o blwyfy Rhiw, Swydd Gaernarfon, Cymru.Bu yn briod â Mr. Daniel Roberts, o Felin Llangwnadie, o'r un Sîr, am un-ar-bumtheg o flynyddoedd. Gadawodd i alaru eu colled ŵr a saith o blant — oll yn fechgyn.
Yr oedd y drengedig yn aelod gymmeradwy gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yn y lle uchod. Dioddefodd ei chystudd gyda thawelwch mawr, gan bwyso ar ei Hanwylyd Iesu yn ddiysgog, yn gyffredin, eithr yn amheu ei hawl rai prydiau.
Ond fel yr oedd yn neshau at ddiwedd ei thaith llinedig, tywynai yr Haul nefol yn fwy llewyrchus ar ei phabell, a hithau Yng ngoleuni hwnw, a ymafaelai yn gryfach gryfach yn Nghraig yr Oesoedd, a dywedai yn hŷf fod ganddi hawl yn y Cyfaill a'i harweiniai trwy y bwlch cyfyng, yr oedd hi i fyned iddo yn mhen ychydig fynydau.
A phan ddaeth yr awr i fyny yn ei mynydau olaf tystiodd yn groyw. 'Fod breichiau tragywyddol ei Phriod dani.' A chyda hyny hunodd yn nghól ei Hanwylyd.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mawrth 1840
MRS. MARGARET ISAAC, LEE, ONEIDA, EFROG NEWYDD.
Anrhegaf eich Cenhadwr teilwng âg ychydig hanes marwolaeth Margaret Isaac, genedigol yn Mhlwyf Rhiw, Sir Gaernarfon, Cymru, yr hon fu wraig i Daniel Roberts, Melin Llangwnadle o'r un Sir; yr hon a ymadawodd a'r fuched hon y 25ain o Ionawr, 1840, yn 40 mlwydd o'i hoedran. Hi a fu yn briod 15 mlynedd, ac a adawodd 7 o blant, oll yn fechgyn, a gwr i alaru ar ei hôl.Yr oedd Mrs. Roberts yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Lee, Swydd Oneida, Caerefrog Newydd. Hi a fu yn gorwedd 10 wythnos gan afiechyd, ac a fu farw ar enedigaeth ei baban. Yn ystod ei chystudd yr oedd yn hynod dawel, gan bwyso ar ei Harglwydd Iesu. Ond ar rai prydiau yu amau ei hawl. Ond fel yr oedd hi yn nesau, at ddiwedd ei thaith flinedig yr oedd y cymylau yn cario heibio, a'r Haul nefol yn tywynu ar ei phabell, a'r afael yn dyfod yn gadarnach gadarnach; ac wedi hyn hi a ddywedodd yn hyf fod ganddi hawl yn y Cyfaill a'i harweiniai yn y bwlch cyfyng, pa un yr oedd i fyned trwyddo ymhen ychydig fynudau. Ac yn y mynudau hyn dywedodd yn groyw fod breichiau tragywjddol ei Phriod oddi tani; ac yna hi a ymadawodd yn dawel ynghôl ei Hargwylyd. Ond mae'n rhaid i mi dalfyru ar fy meddwl.
Nos Lun, sef y 27 o lonawr, daethom ynghyd, ychydig o gymydogion, i dalu parch i'n hanwyl frawd galarus; a gweinyddwyd ein cynnulliad fel arferol, trwy ddarllen y 12fed bennod o ail lyfr Samuel, ac wedi canu emyn, gweddiodd rhai o'r brodyr gan erfyn ar Dduw am ei fendith ar y tro galarus hwn. Ac yn y fan yr ydym yn credu fod i'r Arglwydd wedi gwrando ac ateb, ac yn anfon y gwlith nefol i lawr. Ond cyn haner y cwrdd fe ddanfonodd y gwlaw mawr, nes o'r bron yr oedd pob llestr yn llawn hyd yr ymyl, a thyma'n tystiolaeth ni, fod yr Arglwydd yn wir yn y lle.
Yr eiddoch, J. J.