MR. ELLIS OWENS. RIDGEWAY, IOWA COUNTY, WISCONSIN.
Ionawr 25ain, 1858, bu farw Mr. Ellis Owens, Ridgeway, swydd Iowa, Wisconsin, yn 64 mlwydd oed. Claddwyd ef y dydd Mercher canlynol yn mynwent Dodgeville.Gweinyddwyd wrth y bedd gan y Parch. David Lewis, gweinidog Ridgeway, a phregethodd ar ôl claddu ar yr achlysur yn nghapel yr Annibynwyr. Yr oedd Mr. Owens yn aelod eglwysig gyda'r Annibynwyr ers oddeutu 33 o flynyddoedd. Ymunodd âg achos y Gwaredwr yn nghapel Caegwigin, neu Bethlehem, Llanllechid, swydd Gaernarfon. Derbyniwyd ef yn aelod gan y Parch. Llewelyn Samuel.
Yr oedd Mr. Owens y pryd hwnw yn gweiihio ar Plas y Penryn. Yr oedd yn cartrefu yn Mhen Machno. Yr wyf yn meddwl nad oedd achos y pryd hwnw (os oes eto,) gan yr Annibynwyr yn Mhen Machno; ond byddai eu pregethwyr yn dyfod i bregethu i'w dŷ ef ar adegau.
Yn y flwyddyn 1830 symudodd Mr. Owens a'i deulu o Ben Machuo i'r America, a daeth i Utica, New York, ac ymwasgodd yn mlaen at yr eglwys yr hon oedd ar y pryd, os nad wyf yn camgymeryd, dau ofal y Parch. R. Everett. Y pryd hwnw yr ymunodd Mrs. Owens, ei briod, â'r achos, a buont yn aelodau rheolaidd o'r eglwys hon am tua 15 mlynedd, y rhan fwyaf o'r amser hwn o dau ofal y Parch. James Griffiths.
Oddiyma ymfudasant i Wisconsin, 13 o flynyddoedd yn ôl, a sefydlasant yn Dodgevi!le. Pan ddaethant yma nid oedd ond ychydig Gymry yn y lle, ac achos crefydd yn isel. Eto ni ddarfu i wrthddrych ein hanes ei rhoi i fyny; ond penderfynodd wneyd ei oreu. Safodd yn ffyddlon dros ei Dduw a thros ei enwad, a chafodd weled yr achos wedi dyfod i agwedd lled lewyrchus.
Symudodd o Dodgeville i Gaergybi, lle bychan tua 4 milltir o Dodgeville. Yn y lle hwn y bu ef yn nghyd ag eraill o'i gyfeillion yn ymdrechu i godi y capel bycban sydd yn perthyn i'r 4 enwad. Bu yn dra ffyddlon gyda yr achos yn ei wahanol ranau, yn Nghaergybi. Edrychid arno yn barchus gan y gwahanol enwadau yma. Derbyniodd lawer o gysur yn y lle hwn. Ond cafodd yma ddail surion hefyd.
Oddiyma symudodd yn ddiweddar i'r man lle bu farw, sef 13 milltir o Dodgeville. Yr oedd y lle olaf yn lled anfanteisiol iddo. Yr oedd yn lled bell oddiwrth foddion crefyddol Cymreig. Yr oedd yma foddion crefyddol gan y Saeson, ond ei fod yn lled afreolaidd. Ers tipyn yn ôl, daeth y Parch. D. Jones, Dover, i'r ardal i bregethu i'r Saeson, a sefydlodd eglwys, a darfu Mr. Owens ymuno â hwy; ac yna y gorphenodd ei daith.
Bu am hir amser dan law cystudd, sef rhwng tair a phedair blynedd - ei glefyd oedd y darfodedigaeth; ond er mor hir ni chlywais ef unwaith yn grwgnach. Yn bytrach., dywedai ei fod yn cael ei gymeryd yn araf, er mantais iddo ymbarotoi.
Fel dyn ac fel Cristion, yr oedd ynddo lawer o rinweddau, eto nid oedd heb ei ddiffygion. Dywedai wrthyf ychydig ddyddiau cyn ei ymadawiad, nad oedd mor oleu arno ag y dymunasai wrth edrych tua'r glyn, er hyny nad oedd yn ofni marw - ei fod yn rhoddi ei bwys ar addewidion ei Dduw y cai fyned drwodd yn ddiogel - a chredwn mai felly y bu. Gadawodd ar ei ôl weddw alarus yn nghyd a deg neu un ar ddeg o blant. Aeth un o'i feibion, sef David, i Galiiffornia, ac ni wyddom pa un ai byw ai marw ydyw. Mae rhai o'i blant yn proffesu crefydd; ond y mae y nifer luosocaf yn wrthodwyr o honi hyd yma. Gobeithiwn a gweddiwn am i'r amgylchiad hwn, sef marwolaeth eu hanwyl dad, fod yn foddion i'w dwyn i ymofyn ara "y rhan dda, yr hon ni ddygir oddi arnynt."
Ei Fab-yn-nghyfraith.