MRS. JANET PARRY. STEUBEN, NEW YORK.

Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Lanengan, sir Gaernafon, Gogledd Cymru. Enw ei phriod oedd Robert Parry, yr hwn oedd feddyg rhagorol yn ei amser, ac a fu farw er's blynyddau lawer, yn Steuben, Efrog Newydd.

Ymfudodd gyda ei phriod ac un plentyn i'r America yn y flwyddyn 1818, a sefydlasant yn Steuben. Ganwyd iddynt yno ddau o blant drachefn, pa rai a ragflaenasant eu mam i fyd arall.

Nid hir ar ôl eu dyfodiad i Steuben y bu yr Arglwydd heb ymweled â'u heneidiau yn ei ras a'u dwyn hwynt i ymostwng i'r efengyl. Ymunasant â'r Bedyddwyr, a derbyniwyd hwynt yn aelodau yn y Capel Isaf, Steuben, lle bu ein hymadawedig chwaer yn aelod dros weddill ei hoes. Nid wyf yn gwybod nemawr am ei buchedd fel Cristion, eithr mor bell ag yr wyf wedi deall, darfu iddi arwain bywyd unol â'r broffes oedd wedi wneud. Cyfarfyddodd ein hanwyl chwaer â llawer o brofedigaethau yn ei thaith trwy y byd hwn; un o'r rhai trymaf oedd marwolaeth ei hanwyl briod, yr hyn a nodwyd uchod; ond profodd yn eu gwyneb oll fod Tad yr amddifaid yn fyw, a derbyniodd oddiwrtho nerth i fyned drwyddynt oll.

Yn mis Tachwedd diweddaf symudodd gyda ei mab John R. Parry a'i deulu i Bangor, LaCrosse, Wisconsin, lle y terfynodd ei gyrfa ddaearol yr 21ain o Chwefror diweddaf. Ni bu ei chystudd ond byr - tueddai ei hafiechyd yn ei ddiwedd at y dropsy. Nis gellid cael gwybod nemawr o'i theimladau gyda golwg ar fyd arall, o herwydd fod ei synwyr wedi dyrysu i raddau er's rhai blynyddoedd. Eithr yr ydym yn credu fod ei hundeb â'i Gwaredwr yn parhau yn y glyn tywyll, a'i bod wedi myned adref i blith y gwaredigion i ganu am y gwaed a'i golchodd oddiwrth ei holl bechodau.

Ar amgylchiad y gladdedigaeth dangosodd y Cymry yn yr ardaloedd hyn eu bod heb anghofio y rhinwedd perthynol iddynt fel cenedl, sef dangos eu parch i goffadwriaeth y marw. Daeth lluaws o honynt ynghyd i ddanfon corff ein hanwyl chwaer i'r bedd, lle y gorwedd hyd fore yr adgyfodiad cyffredinol. Bydded i ni y rhai byw osod y pethau hyn at ein calon, ac ymbarotoi ar gyfer yr unrhyw amgylchiad.

Pregethwyd ar yr amgylchiad gan yr ysgrifenydd, William. Jones.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1859.