MR. JOHN O. PRICHARD. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mehefin 17eg, 1858, yr hen a'r anwyl frawd, John O. Prichard, o blwyf Remsen, yn yr 62 mlwydd o'i oedran.

Yr ydoedd o'r cyntaf o'r lle a elwir Penfras, yn mhlwyf Abereirch, ger Pwllheli. Buodd yn benteulu yn yr un lle dros 30 mlynedd, ac oddiyno y bu farw gan adael i alaru ar ei ôl ei anwyl briod Fanny, ac wyth o blant ymddifad o'u hanwyl dad.

Cafodd y fraint o ymuno â chrefydd yn mysg yr Annibynwyr yn Remsen er's tuag 21 mlynedd yn ôl, a bu yn aelod ffyddlon iawn hyd y diwedd. Ac er na allodd ddweyd ond ychydig yn ei ddyddiau diweddaf, nid ydyw ein hyder yn ddim llai am ei dragywyddol hapusrwydd.

Yr ydoedd yn briod a thad tyner, yn gymydog dystaw a thawel a hynod gymwynasgar. Yr ydoedd fel dyn yn dueddol i feddwl isel, trwm, ac ofnus, felly yr ydoedd y troion a'i cyfarfu yn cael llawer o effaith ar ei wan feddwl. Buodd yn drallodedig iawn yn ei ddychweliad at grefydd, ond cafodd gymhorth i ddyfod i fyny o'r tywydd hwnw, a buodd yn mwynhau crefydd yn ei chysur cryf laweroedd yn ei oes.

Cafodd ddosran fawr o brofedigaethau, a rhai o honynt yn chwerw iawn; ac fel yr oedd ei gyfansoddiad yn gwanhau yr oedd ei feddwl yn gwanhau i ymgynal danynt, ac felly yr oedd y naill beth yn effeithio ar y llall, gwendid corfforol yn effeithio gwendid meddwl, a meddwl trwm yn sychu yr esgyrn, ac ysbryd cystuddiedig pwy a'i cyfyd? Yr ydoedd yn adwaen pawb hyd y diwedd, yn gorchymyn gofal y plentyn ieuangaf yn arbenig i ofal ei fam, yn dymuno rhan yn ngweddiau ei frodyr, yn hyderu (er yn ofnus) yn nhrugaredd y Duw mawr.

Ac felly y gorphenodd ei yrfa ddaearol - ond dylid cofio er mor gysurus i'r dyn a'r perthynasau i allu pan ar wely angeu i adrodd geiriau cysurus a hyderus, eto nid yw diogelwch cyflwr na thragywyddol hapusrwydd yn troi ar hyny - nag ydyw ddim. Os oedd y bywyd yn fywyd i Grist, yr oedd marw yn elw, ac yr ydym yn meddwl felly yn gryf am yr anwyl frawd a'n gadawodd.

Claddwyd ei ran farwol yn mynwent Fairchlld. Gweinyddwyd gan y brodyr Richard W. Jones, E. Salisbury, Owen F. Parry, Thomas Jones, a'r ysgrifenydd.
MORRIS ROBERTS.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1858.