MRS. ELINOR PUGH. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mai 21ain, 1858, yn ardal Penygraig, Remsen, Efrog Newydd, Mrs, Elinor Pugh, priod Mr. Meredìth Pugh.Ei chlefyd oedd y darfodedigaeth. Merch ydoedd i John a Margaret Roberts, Tynycae, plwyf Abereirch, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Yr oedd yn aelod diddolur gyda'r T. C. hyd ei bedd. Claddwyd hi yn mynwent Peny- graig, Remsen.
Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y brodyr Owen F. Parry, John D. Jones, a'r ysgrifenydd. Ebenezer Salisbury.