MRS. ANN ROBERTS. FLOYD, HOLLAND PATENT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ebrill 8fed, 1858, yn Floyd, ger Holland Patent, Efrog Newydd, o'r Cancer, yn 34 mlwydd oed, Mrs. Ann Roberts, priod Mr. Richard D. Roberts, gynt o Utica, a merch i Richard Jones, Ffridd, Llanllyfni, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Gadawodd briod a dau blentyn bychan amddifaid ar ei hol. Ar y l0fed, rhoddwyd ei chorph i orwedd yn mynwent Holland Patent.

Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parch'n Thomas T. Evans, a John R. Griffiths.
MORRIS D. ROBERTS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1858.