MR. JOHN J.ROBERTS. PROSPECT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Byddwch ya gystai a chaniatau congl fechan o'ch Gylchgrawn defnyddiol i wneud ychydig nodiadau ar fywyd crefyddol a marwolaeth dangnefeddus ein brawd a'n cyfaill y mae ei enw uwch ben yr ysgrif hon.

Nid ein hamcan yw gorfoli y marw, ond dyrchafu gras Crist ynddo, a thrwy hyny lesau y byw gan ei hanog i ddylyn ei ffydd ac ystyried diwedd ei ymarweddiad.

Ganwyd Mr. John J. Roberts yn mhlwyf Llaniestyn, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Enw ei gartref ydoedd Felin y dinas. Nid ydym mewn cyfle i gyrhaedd unrhyw wybodaeth ar y dull y treuliodd J. J. R ei ddyddiau boreuol; tebyg nad oedd ynddo nemawr wahaniaeth oddiwrth ei gyfeillion ac ieuenctyd yr ardaloedd hyny yn gyffredin; rhodiai yn ôl helynt y byd hwn gan wasanaethu y creadur yn fwy na'r Creawdwr. Eto cyrchai i'r addoliadau cyhoeddus yn mysg y Trefnyddion Calfinaidd yn fynych, a diamheu iddo gael blas ar y gwirionedd i raddau y pryd hwnw, er na enillwyd ef i wneud proffes gyhoeddus o'r efengyî hyd ar ôl ei ddyfodiad i dir y Gorllewin.

Daeth ef a'i deulu drosodd i America yn 1819, ae ymsefydlasant ger Prospect, swydd Oneida. Ymunodd yn fuan ar ôl ei ddyfodiad i'r wlad hon âg eglwys y T. C. yn Pen-y-caerau, a gwnaeth ei ran yn ffyddlon yn ôl ei allu tnag at gysur ac adeiladaeth y frawdoliaeth. Oherwydd rhyw amgylchiadau nad yw yn angenrheidiol eu crybwyll ymadawodd a'i hen frodyr ac ymunodd â'r eglwys Annibynol yn Prospect, a gallwn ddweyd yn ddi-betrus iddo dreulio prydnawn gwaith ei fywyd mewn cysulltiad â'r eglwys grybwylledig er anrhydedd ei Feistr nefol, cysur ei frodyr a'i chwiorydd yn y lle, yn gystal a dychryn i'r drygionus o fewn cylch ei ddylanwad. Bu yn proffesu crefydd am yr ysbaid maith o 37 o flynyddau, a gorphenodd ei yrfa mewn tangnefedd heddychol.

Hydref 11eg, 1858, yn 66 mlwydd oed, a chladdwyd ef gerllaw addoldy Penycaerau.

Yr oedd wedi ymuno mewn priodas ac iddo un plentyn cyn gadael Cymru, a dygodd i fyny 6 o blant, dau o'r rhai oedd wedi eu claddu o flaen eu tad. Gadawodd weddw afiach a phedwar o blant ar ei ôl yn anialwch y byd, nis anghofiant yn fuan y cynghorion a'r esiamplau a gawsant gan un a'u carai mor fawr ac a gerid ganddynt mor ymlynol.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mai 1859.