MRS. CATHERINE WILLIAMS. PROSCAIRON, WISCONSIN.

Mai 13eg, 1858, Catharine Williams o ardal Proscairon. Wisconsin.

Ganwyd a magwyd y chwaer uchod yn Bryn Madog. Llanddeiniolen Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ymfudodd i'r wlad hon gyda ei thad a dau frawd yn 1846, ac ymsefydlasant yn yr ardal hon. Y mae tri o honynt, erbyn heddyw, wedi eu symud gan angau, ac un yn weddill. Crefydd bur yw y trysor gwerthfawrocaf a all dyn gael, a'i chael yn ieuanc sydd well fyth. Yr oedd amgylchiad ein chwaer yn bur debyg i'r hyn a noda Paul Paul gyda golwg ar Timotheus, "Gan alw i'm Cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd hefyd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice, a diamheu genyf ei bod ynot tithau hefyd;" felly côf genyf finau am ei mam a'i nain hithau, mai rhai hynod yn Nghrist oeddynt ill dwy ordd, ac felly hithau, daliodd ei ffordd a chwanegodd gryfder ar ôl ei dyfodiad i America. Er galar i rieni a dolur i Eglwysi, y mae yn bod yn wahanol gyda llawer iawn.

Priododd yn anrhydeddus un o'r un eglwys a hithau. Claddwyd eu cyntaf anedig o'i blaen. Dechreuodd ei hiechyd adfeilio yn fuan ar ôl hyny. Claddwyd ei thad a'i brawd yn agos i'r un pryd. Methai ei chyfansoddiad gwanaidd a dal tristwch ar dristwch. Bu yn ffyddlon hyd angau. Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth. Ymdrechodd ddyfod i dŷ yr Arglwydd tra y gallodd; ac wedi iddi fyned yn analluog i hyny, byddai yn hyfrydwch mawr ganddi gael ei brodyr a'i chwiorydd i gynal cyfeillach eglwysig yn y tŷ. Cwynai yn aml fod fod arni ofn blino a tan gerydd y rArglwydd; a diolchai fod modd "peidio a'i damnio gyda'r byd."

Bu y geiriau yn Habacuc ar ei meddwl am ddyddiau lawer, "Gwyliaf i edrych pa beth a ddywed yr Arglwydd Dduw wrthyf, a pha beth a atebaf pan y'm cerydder." Cafodd y gras gwerth, fawr o fod yn ddyoddefgar mewn cystudd.

Dywedai "Mae arnaf chwant i'm datod a bod gyda Christ," ond ofnai flino yn dysgwyl amser Duw i'w gollwng. Mae yr ysgrifenydd yn dyst o glywed ganddi y profiadau cysurus hyn, pan yn ymweled a hi o bryd i bryd. Dywedai wrth frawd a ddaethai i ymweled â hi, "Fod yn dda iawn ganddi am y llafur a gymerodd ei mam gyda hi pan oedd yn ieuanc, trwy ddysgu yr "Hofforddwr" iddi, ynghyd a llawer o Salmau a phenodau, a bod y rhai a ddysgodd ei mam iddi yn ei chof yn drwyadl, ac yn peri mwy o gysur yn ei chystudd olaf na dim arall." Cwynai ei phriod fod ei chystudd yn fawr. Atebai hithau ei fod, ond ei fod yn "Gweithredu tragwyddol bwys gogoniant." Gofynai iddi, "A oedd arni ofn marw?" Atebodd hithau. "Duw sydd noddfa a nerth i mi." Pan yn rhydiau yr afon, siniai,

"O fryniau Caersalem ceir gweled a.y."

A dyna oedd geiriau olaf a glywyd ganddi. Nid oedd yn brysio gan ei bod yn credu. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."
H. ROBERTS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1858.