MR. ROBERT WILLIAMS. TURIN, LEWIS COUNTY, NEW YORK.
Gorphenaf 18fed, 1858, yn Turin, swydd Lewis, New York, bu farw Mr. Robert Wilmams, yn 74 mlwydd oed, o'r cystudd a elwir y ddafad wyllt (cancer). Deehreuodd ar ei wefus er's tua 3 blynedd. Ond nid oedd neb yn meddwl mai y dolur peryglus hwnw oedd arno, ond pan ddeallwyd mai hwnw oedd, cafodd bob cymhorth meddygol ag oedd yn ddichonadwy ei gael, a phob ymgeledd a thriniaeth a thynerweh ag oedd modd.Gweinyddwyd yn y gladdedigaeih gan y Parchn. William Roberts, Richard Isaac a D. E. Prichard. Cofir yn hir am ddull y gladdedigaeth, er ei fod mewn arferiad yn Nghymru, sef canu o'r tŷ i'r capel ac o'r capel i'r fonwent, yr hyn oedd yn dra effeithiol i'r gynulleidfa.
Claddwyd ef yn y fonwent ger llaw capel Nebo, wrth ochr ei anwyl wraig, hyd foreu caniad yr udgorn mawr.
Mab ydoedd i Mr. William a Catherine Williams, yn mhlwyf Meilldeyrn, Lleyn, swydd Gaernarfon. Ymunodd mewn priodas â Miss Mary James, merch i John ac Ann James, Tynllidiard Lleyn, plwyf Llanfaelrhys, o'r un swydd, yn y flwyddyn 1810, ac yn ei chartref hi mewn ffarm gysurus y buont byw nes iddynt symud i'r wlad hon. Mae iddynt 6 o blant yn fyw, 4 yn y wlad hon a 2 yn Nghymru.
Symudasant i'r wlad hon yn y fîwyddyn 1851. Gwnaethant eu cartref gyda eu merch hynaf, sef gwraig Mr. William Roberts. ieuaf, lle y cawsant gartref cysurus hyd ddiwedd eu dyddiau.
Bu farw ei wraig 4 blynedd yn ôl, pryd yr ymddifadwyd yr hen frawd o'i anwyl briod yn ei hen ddyddiau ac mewn gwlad ddyeithr. Yr oedd wedi treulio y rhan fwyaf o'i oes allan o dŷ yr Arglwydd, er ei fod yn ddyn moesol, yn un o ddeiliaid ffyddlon yr ysgol Sabbothol a phob moddion arall yn gyson a diwyd; ond heb ymuno a'r gyfeillach grefyddol.
Yn y flwyddyn 1848 ymwelodd yr Arglwydd â'i enaid mewn modd effeithiol, nes y penderfynodd roddi ei hun i'r Arglwydd fel yr oedd, ac i'w bobl. Ymunodd ag eglwys y T. C. yn Mhen y Caerau. Yn mhen ychydig ar ôl iddo ymuno a'r eglwys hono sefydlodd y Trefnyddion achos yn ei ardal yn Rhiw, yn capel Tan y Foel, o'r lle y daeth i'r America. Yr oedd cwyno mawr ar ei ôl yn yr ardal, yn yr ysgol Sabbothol, ac yn enwedig yn yr eglwys. Rhoddodd dystiolaeth eglur ei fod yn Gristion cywir egwyddorol. Yn wyneb ei symudiadau daliodd ei afael yu ei grefydd.
Ar ei ddyfodiad yma ymunodd â'r eglwys sydd yn cyfarfod yn capel Seion, Tuck Hill. perthynol i'r T. C. Teimlir colled yno ar ei ôl. Fel dyn yr oedd yn un tawel a llonydd, yn caru heddwch a thangnefedd yn ei deulu, yn yr ardal a'r eglwys. Byddai pob math o derfsg yn ofid mawr iddo - a phe byddai mwy o'r rhinwedd hwy yn ein mysg byddai golwg arall ar grefydd mewn llawer man.
Yr ydym yn hyderu oddiwrth ei fywyd cyson a'i ymddygiad addas i'r efengyl, fod marw wedi bod yn elw iddo, a'i fod yn gwledda heddyw gyda'r saint. Addfedrwydd i bawb o honom i fyned adref at y rhai sydd wedi ein blaenu, ac na alarwn fel rhai heb obaith. Ydwyf dros y teulu.
D. E. PRICHARD.