MR. ROBERT ABRAMS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Awst 3ydd 1859, yn ardal Trenton, Efrog Newydd, Mr. Robert Abrams, yn 71 mlwydd oed.Yr oedd yn un o'r hen sefydlwyr yn yr ardal hon, wedi dyfod drosodd i America o sir Gaernarfon yn y flwyddyn 1818 - 41 o flynyddoedd yn ôl. Yr oedd yn ei gynefinol iechyd yn myned i'w wely, ac yn mhen awr neu ddwy tarawyd ef â rhyw boen dan ei fron, yr hyn a deimlai yn fynych yn awr ac eilwaith, ond y tro hwn cyn pen ychydig eiliadau terfynodd yn angeuol iddo.
Claddwyd ef yn mynwent y Capel Ucha', Steuben, a gweinyddwyd gan y brodyr R. Evans, M. Roberts a R. Everett.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1859.
Cyfrifiad America 1850 ~ Plwyf Trenton.
Robert Abrams 61oed Eiddo gwerth $3200.Dorothy Abrams 67oed
Eiddo:
60 erw o dir wedi ei wella, 20 erw heb ei wella.
3 ceffyl.
11 buwch.
3 llo.
7 mochyn.
60 bwsiel o wenith, 40 bwsiel o India corn, 100 bwsiel o geirch.