MRS. ELIZABETH JONES. DEERFIELD. NEW YORK.

Y 6ed o Chwefror, 1840, Mrs. Elizabeth Jones, gwraig Robert Jones, Deerfield, yn 39ain o flwyddau o oed.

Bu y chwaer ymadawedig hon yn briod bedair ar ddeg o flynyddoedd, a gadawodd chwech o blant, ynghyd a'i phriod, i alaru ei cholled.

Ganwyd Elizabeth yn Nolgellau, y 5ed o Dachwedd yn y flwyddyn 1800. Merch ydoedd i William a Jane Vincent. Treuliodd y rhan fwyaf o foreuddydd ei hoes yn Llanegryn, Meirionydd, lle yr unodd a'r achos goreu, yr ydys yn barnu yn y flwyddyn 1818, pryd yr oedd Diwygiad hynod yn yr ardal hono. Nid aml y gwelwyd neb mor wresog yn ei tharawiad allan, a pharhaodd i fwynhau cysuron crefydd hyd ddiwedd ei hoes. Ymdrechodd ymdrech deg. Gorphenodd ei gyrfa mewn Gorfoledd! Y mae gwedi buddugoliaethu ar y gelyn olaf; ei chystudd oedd fyr ond poenus. Yr oedd ei meddwl yn dawel, ei Ffydd yn ddiysgog, yr oedd yn teimlo fod ei gwaredigaeth gerllaw.

Pan yn «gos i'r Iorddonen dywedodd ei bod yn gweled cyrau'r wlad a'r Brenin yn ei degwch, a chan gyflwyno ei rhai bach i ofal yr Hwn sydd abl i'w cynal, ehedodd ei hyspryd ymaith i'r wlad lle na ddywed preswylydd, Claf ydwyf.

Yr 8fed o'r mis rhag-grybwylledig, rhoddwyd ei rhan farwol i orphwys "yn mhriddellau'r dyffryn " gerllaw Capel yr Annibynwyr yn Deerfield. Pregethodd y Parch. James Griffiths, oddiwrth Salm 37: 18, yn sobr al| phwysig ar yr achlysur. Nododd ddyledswyddau'r galarwyr, a daeth ag ystyriaethau ar ansicrwydd bywyd adref at feddyliau y gwrandawyr yn gyffredinol.
Un o'r Galarwyr.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1840.