MRS. MARGARET JONES, ALBANY, EFROG NEWYDD.
Mawrth 19eg, (1840,) yn Albany, C. N., ar ol byr gystudd chwe' diwrnod, yn 74 ml wydd oed, Margaret, priod Rowlaud Jones, gynt o Neigwl Uchaf, Lleyn, swydd Gaernarfon, Cymru.Mudasant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1818. Buont byw er hyny yn Maes-y-carw, (Deerfield,) swydd Oneida, hyd o fewn tair blynedd a hanner, pryd y daethant at ferch iddynt i gyd-drigiannu yn y dref hon.
Yr oedd Mrs. Jones yn un o'r rhai mwyaf caredig at achos Crist, lletteugar ac ymgeleddgar idd ei weision, tebygwyf, a groesodd y Môr Werydd; ac yr oedd yn hoff iawn o'n cyfarfodydd Cymreig ni yn y lle hwn, yn enwedig ein cyfarfodydd neillduol, yn ddiweddar.