MRS. SARAH EVANS. PARISVILLE, OHIO.

Hydref 16eg, 1858, yn Pansville, Ohio, yn 25ain mlwydd oed, Mrs. Sarah Evans, diweddar o Tallmadge, yn yr un dalaeth.

Yr oedd yn ferch i'r diweddar Enoch a Jane Williams o Gae'r lloiau, Capel Curig, Gogledd Cymru.

Ymfudodd i'r wlad hon o Bethesda, Arfon. Bu ar wasanaeth yn Nawddle Lloerigion yn Trenton, Jersey Newydd. Daeth yn mlaen i Ohio, ac ymunodd mewn priodas ag un Ellis Evans. Trodd hwnw yn afradlawn; gadawodd hi yn ddiymgeledd, wedi gwastraffu cymaint o eiddo ag a feddent, ac aeth ymaith yn grwydryn o'r naill sefydliad i'r llall, gan dwyllo dynion a'u harwain trwy gamddarluniadau. Effeithiodd y driniaeth greulawn hon ar ei meddwl tyner, nes ei thaflu i afael y darfodedigaeth. Treuliodd wythnosau olaf ei bywyd yn nhŷ ei hewythr, Mr. Robert Williams, yn Parisville; lle y cafodd bob ymgeledd a thynerwch galluadwy.

Yr oedd Mrs. Evans yn ddynes wybodus, ddystaw a dichlynaidd. Yn ôl symud i Ohio, ymunodd ag eglwys Annibynol Parisville, ac ar ôl hyny bu mewn undeb ag Eglwys Annibynol Tallmadge. Ymddangosai yn ymwybodol er ys peth amser fod ei diwedd yn agoshau, a'i bod yn meddwl llawer am hyny, ac yn diwyd ymbarotoi erbyn yr amgylchiad. Ychydig cyn ymadael, ceisiai gan ei chyfnitherod oedd yn gweini iddi ganu gyda hi, a phan oedd y dagrau yn rhwystro eu lleisiau dywedai wrthynt am beidio wylo o'i phlegyd hi. Dwy neu dair awr cyn huno, dywedai wrth yr ysgrifenydd, ei bod yn pwyso yn gwbl ar Iesu; a'i bod wedi rhoddi holl ymddiried ei henaid yn Nuw. Dywedai hefyd wrth ei modryb ei bod yn oleu arni yn y glyn. Ond cymerai ormod o ofod i goffhau ei holl eiriau. Ni chafodd lawer o hawddfyd yn ei thaith ddaiarol, ond mae seiliau cryfion i hyderu fod marw yn elw iddi, a bod ei henaid yn y wlad well.

Gadawodd faban chwe mis oed ar ei hol, yr hwn yn bresenol sydd gyda ei hewythr yn Pansville. Mae ganddi frawd ô'r enw Enoch Williams (Llithrig Arfon) yn Llanrwst, Gogledd Cymru. Ymddangosodd englynion tlysion o'i eiddo i'w harlun yn y Cenhadwr am Mai diweddaf. Mae ganddi frawd o'r enw William yn Trenton, Jersey Newydd, heblaw eraill o'r teulu sydd yn yr hen wlad.

Claddwyd hi yn mynwent addoldy yr Annibynwyr Cymreig yn Palmyra. Gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd.
D. DAVIES.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1859.