MRS. JANE GRIFFITH, PROSPECT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ganwyd ein chwaer yn Nhrefollwyn, plwyf Llanengan, Lleyn, Sir Gaernarfon.

Collodd ei mam pan yn dair-ar-ddeg oed, yr hyn a achosodd i ofal y teulu ddisgyn i raddau helaeth arni hi. Nid oedd neb o'i theulu yn grefyddol; ond tueddwyd ei meddwl hi yn foreu i geisio yr Arglwydd.

Pan tua phedair ar ddeg oed ymunodd â chymdeithas y Wesleyaid a gyfarfyddai yn Goch-y-Moel. Wedi cyrraedd un-ar-hugain mlwydd, ymunodd mewn glân briodas â Mr. James Griffith, Berth aur, plwyf Penllech. Bu iddynt naw o blant, pedwar o ba rai sydd yn fyw, i gydalaru a'r hen ŵr eu tad am un a fu yn dra ffyddlon, trwy fywyd hir i lenwi y cymeriadau o briod a mam.

Yn y flwyddyn 1823 ymfudodd y teulu i'r wlad hon, ac ymsefydlasant ar dyddyn bychan ger Prospect, lle yr arosasant hyd o fewn ychydig o wythnosau i'w marwolaeth hi. Cymerwyd hi yn glaf y 19eg o Ebrill diweddaf; a pharhaodd mewn cystudd trwm hyd foreu Gwener, y 6ed o Fai, pryd y safodd yr olwynion, ac yr ehedodd ei hysbryd at Dduw. Un o nodweddiadau penaf ei bywyd crefyddol oedd ffyddlondeb. Teithiodd lawer ar ei thraed i Sixty a Ninety-six i'r oedfaon. Llawer gwaith y cododd yn foreu ac y gweithiodd yn hwyr er mwyn gwneud y ffordd yn rhydd i fyned i'r cwrdd. Codai y groes hefyd gartref. Cymerai afael yn y Beibl yn y teulu, ac elai â hi ei hun a'i phlant a'i phriod at orsedd gras. Cafodd yr hyfrydwch o weled y plant, ond yr ieuangaf, yn gwneud arddeliad cyhoeddus o Grist.

Yr oedd yr "unig" hwn a adawyd yn wrthddrych pryder dwys a llawer gweddi daer iddi yn ei chystudd olaf. Ychydig gyda blwyddyn yn ôl ymunodd ei phriod â'r Annibynwyr yn Prospect; byddai hithau yn myned gydag ef yn gyffredin i'r gyfeillach, a chofir ei phrofiad addfed a'i chynghorion gwerthfawr gan lawer yn hir. Cynghorodd lawer, a gweddiodd lawer, wrth fyw. "Tystiolaeth Iesu yw ysbryd y broffwydoliaelh." Felly, i raddau pell, y gellir dweyd am dani hithau, iddi fyw i roddi i'r byd dystiolaeth dda am Iesu. Cymerodd yntau ofal am dani wrth farw. Troes gogoniant ei bresenoldeb gysgod angau yn oleu ddydd iddi. Ni throdd ei chefn ar y byd dan rwgnach; na, disgynodd i lyn tywyll marwolaeth â "sain cân a moliant" ar ei gwefus. Torodd allan i glodfori a diolch nos Fawrth; a pharhaodd ei thelyn mewn llawn hwyl hyd foreu Gwener, pryd y newidiodd gân "y tafod musgrell hwn" am "yr Anthem faith ei hyd " sydd yn cylchynu gorsedd Duw. Nid digon oedd ganddi oddef pangfeydd ei chystudd yn dawel, a dyna y cwb! ; yr ydoedd am gyhoeddi yn hyf yn ngwyneb "y gelyn a'r ymddialydd," "Ha Elyn! darfu am ddinystr yn dragywydd!" Teimlai fod iddi fuddugoliaeth iawn yn y gwaed. Ac wedi ei gwisgo â gogoniant "mwy na choncwerwr," canai,

"Pan ferwro'r môr; pan losgo'r tîr,
Pan dry yr haul a'r lloer yn ddu,
Pryd hyn mi gara' Mhrynwr cu.
Haleliwia iddo Ef!"

Canodd lawer hefyd ar y penill canlynol:

"Dal fi, Arglwydd, dal fi ronyn,
Ni raid iti 'nal i'n hir;
Mwy sydd eìsoes wedi ei deithiol
Nag sy'n ôl o'r anial dir:
Brynian Canaan a.y.
Ddont i'r golwg yn y man,"

Trwy ei bod wedi ei tharo â'r parlys, yr oedd yn anhawdd deall y cwbl a ddywedai; ond byddai y cyfeillion o'i hamgylch yn gallu gwneud allan yn awr ac eilwaith y gair "Haleliwia iddo Ef!" Bore dydd ei marwolaeth, ymddangosai fel yn teimlo ei bod ar ddechreu "cân yr Oen," fod "coron y bywyd" ar gael ei rhoddi iddi gan ei "Ffrynd a'i Phrynwr rhad," oblegid hi a lefodd yn uchel, "Iddo Ef yn Gymraeg! Iddo Ef yn Gymraeg, haleliwia!" O grefydd fendigedig yr addfwyn Oen! pwy na'th gofleidiai! "Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn; canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd."

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1859.