WILLIAM E. JONES, BETHEL, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ganed gwrthrych y Cofiant hwn yn Penybont Seithbont, plwyf Llandegwning, swydd Gaernarfon. Ymfudodd ei fam i'r America, i Steuben, lle y treuliodd weddill ei bywyd yn mysg y Cymru a sefydlasant gyntaf yn y plwyf uchod, ac y mae ei bedd wrth y Capel Uchaf hyd y dydd hwn.Priododd ef yn un ar hugain oed gyda Catharine Evans, Ty'n Llan, Llanegan, swydd Gaernarfon, yr hon a fu iddo yn briod ffyddlon a thyner hyd ei bedd. Yn Llanengan y cafodd y fraint o ymuno ag achos yr Arglwydd pan tua'r 22 mlwydd o'i oedran, a pharhaodd gyda'r achos yn ffyddlon hyd ei fedd.
Bu farw y 29 o Ionawr, 1859, pan yn y 87 mlwydd o'i oedran, - felly bu ei yrfa grefyddol tua' phump a thriugain o flynyddoedd. Symudasant o Lanengan i Manchester yn Lloegr, ac oddi yno i Liverpool, ac oddiyno i America yn y flwyddyn 1832, a thrigasant yn Remsen. Yr oedd rhai o'i blant wedi ymfudo i'r wlad yma o flaen eu rhieni, a daethant hwythau yma atynt.
Bu iddo ddeg o blant; yr oedd pump o'r deg wrth ei fedd yn gweled ei gladdu; ac yr oeddynt yn gyleus i weinyddu iddo yn ei gystudd, yn nghyd ag amryw o'i wyrion.
Yn undeb y Trefnyddiou Calfinaidd yr ydoedd yn proffesu crefydd hyd y pryd y dechreuodd yr achos crefyddol yn Bethel. Yn yr ysgoldy yn ymyl ei dŷ y dechreuodd yr achos yno, a bu ef a'i deulu yn gymhorth mawr iawn i'r achos yno yn ei ddechreuad a'i wendid.
Yr ydoedd o ran ei grefydd, - yn ei dullwed a'i hynodion cyffredin, - yn dwyn llawer o ddelw yr hen grefyddwyr a welodd ef yn more ei oes; ac felly yn fath o gadwyn euraidd er cysylltu crefyddwyr ieuainc Bethel â'r hen oes foreuol hyny a welodd ef yn Nghymru. Yr ydoedd wedi bod yn ganwr mawr, ac yn ei weddiau a'i ymddyddanion yn y sociely yn gwbl fel yr hen bobl er's llawer dydd. Byddai bob amser yn ymofyn am ryw adnod wrth feddwl pob un fel y byddid arferol, ac y dylai fod eto hefyd.
Pan sefydlwyd eglwys Bethel dewiswyd ef yn un o ddiaconiaid yr eglwys, ac yn mhob ad-ddewis o fuodd yno, dewiswyd ef yn unfryd bob amser, ac felly parhaodd yn y swydd hono hyd ei angau, am dros 21 mlwydd, a llanwodd ei swydd yn dda iawn ac ystyried yr anfantais oedd dani o herwydd fod ei glywed yn drwm iawn er's amryw flynyddoedd. Yr ydoedd yn rhagorol am gadw ei gydgynulliad. Yr ydoedd ei fywyd bob amser yn addas i'w broffes a'i swydd.
Yr oedd yn ddarlîenwr mawr iawn; byddai yn ddarllen y Beibl neu ryw lyfrau da bob cyfle; darllenodd lyfr D. Price, Utica, a llyfr John Roberts, Ruthin, i gyd, a defnyddiodd lawer o'u pethau yn y society. Dywedodd lawer iawu wrthum y cofir llawer am danytnt ar ol ei farw. Yr ydoedd yn fwy ei wybodaeth am athrawiaeth y Beibl a'i hanesiaeth, ynghyd a hanesiaeth yr eglwys yn gyffredinol, na llaweroedd yn ei oes a'i ddyddiau.
Byddai ar bob adeg yn troi i ymddyddan am bethau crefydd; trwy ofyn rhyw gwestiwn neu giìydd troai yr ymddyddan yn grefyddol. Ychydig iawn o ymddyddanion am y byd hwn un amser, a pharod iawn bob amser í siarad am bethau byd arall. Aeth drwy gryn lawer o gyfnewidiadau yn ei deulu yn esmwyth ac yndawel iawn.
Yr ydoedd er's amser maith yu dangos ei fod yn aeddfedau i fyned adref, yn enwedìg pan wrth ein rhybuddio y cofiai y byddai raid iddo ef ar frys roddi ei dabernacl hwn heibio; esgynai yn y fan o rosydd Moab i ben Pisgah, a dangosai i ni gyrau y wlad yr ydoedd ar fyned iddi i fyw.
Cafodd yn gyffredin iechyd da hyd o fewn ychydig i'w ddiwedd. Yr oedd yn berffaith dawel yn ei angau, ac yr ydoedd ei ddiwedd yn dangnefedd. Digonwyd ef â hir ddyddiau, a dangoswyd iddo iachawdwriaeth yr Arglwydd. Ei ddewisiad oedd cael marw yn fwy na byw. Claddwyd ef yn ochr ei anwyl briod wrth gapel Bethel. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y brodyr Wm. W. Thomas a'r ysgrífenydd, Morris Roberts.