MRS. ANN LEWIS (HUGHES), BELVIDERE, BOONE COUNTY, ILLINOIS.
Yr oedd Lewis Charles, brawd Richard Charles a Mary Thomas wedi ei eni yn Ty Mawr, Bryncroes ac wedi byw a ffermio yno ar hyd ei oes. Roedd ganddo un mab a chwe merch, ac fe ymfudodd dwy o'i ferched i'r America.Ann Lewis.
Wedi cael ei geni yn 1783, yr ail o saith o blant. Yn 1810 priododd gyda Richard Hughes mab Hugh Humphrey o Mur Mawr, Bryncroes. Ar ôl priodi buont yn byw yn Penborth, Bodferin ac yna yn Pen yr Orsedd, Llangwnnadl. Yr oedd ganddynt chwech o blant:
Mary 1811
Margaret 1814
Hugh 1816
Ann 1820
Lewis 1823
Henry 1825
Yn 1827 fe ymfudodd y teulu i America yn rhan o'r fintai o tua 50 wnaeth ymfudo gyda'i gilydd o Blwyf Llangwnadl. Yn nechrau Ebrill 1827 hwylio ar y brig Gomer o Bwllheli a chyrraedd Efrog Newydd ar y 22ain o Fai 1827.
Richard yn ffermio yn Alder Creek, Swydd Oneida am tua deg mlynedd, wedyn ymfudo eto i Boone County, Illinois.
Bu Richard Hughes farw ar 7ed Chwefror 1843 yn 66 oed. A bu Ann farw yn 1859 yn 75 oed.