ROBERT MEREDITH. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Rhag. 12fed, yn ardal Pen-y-graig, Remsen, Efrod Newydd, yn 36 mlwydd oed, o enynfa ar yr ymenydd, Mr. Robert Meredith. Holland Patent.Ganwyd ef yn Llanfachreth, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Yr oedd yn proffesu crefydd gyda y T. C. yn Pen-y-graig, a theimla y cyfeillion yn ddwys o herwydd ei golli.
Gadawodd briod a dau o blant bychain i alaru ar ei ol.
Gweinyddwyd ar yr achlysur gau y brodyr E. Humphreys, J. D. Jones, ac E. Salisbury. Claddwyd ef y 14eg o Ragfyr yn mynwent French Road.