MR. HENRY MORRIS, LAKE EMILY, WISCONSIN.

Tachwedd 30ain, 1859, yn Lake Emily, Wisconsin, Henry Morris, yn 60ain mlwydd oed.

Ganed ef yn Cae Mawr, Llanddeiniolen, swydd Gaernarfon, ac yno y bu fyw hyd ei ymadawiad i'r wlad hon yn 1845.

Bu ein brawd yn aelod ffyddlawn gyd a'r T. C. am 33 o flynyddoedd. Cafodd ei alw fel Abraham o Ur y Caldeaid, o blith teulu heb neb o honynt yn proffesu enw y Gwaredwr - "Cywion yr estrys a'm gogoneddant." Teimlodd argyhoeddiad llym o drueni ei gyflwr, bu am ddyddiau yn methu gweithio, a'i gwsg wedi cilio colledigaeth yn parhau i agor ei dorau o'i flaen, hyd oni ddatguddiwyd man iddo guddio ei ben yn nghysgod aberth y groes, pan y tawelodd ei feddwl, ac yr ymroes i chwilio ffordd Duw yn fanylach. Daeth yn gyfarwydd yn yr Ysgrythyrau, byddai adnodau ganddo fel boglynau aur mewn gwaith ariau yn ei atebion ar bob pwnc.

Wedi dod i'r wlad hon bu yn ffyddlawn ar gychwyniad yr achos yn Blaeu-y-cae. Ond y mae ffyrdd yr Arglwydd yn y mor; paham y gwnaeth hyn sydd dywyll i ni, myned a dau was ffyddlawn oddiar y maes, John Daniel ac yntau, cyn tywallt ei yspryd ar ei bobl yn y lle. Dywedai ar ei ymadawiad, "Fe ddal y mater heddyw." Rhybdddiai ei blant i gloddio yn ddwfn am y Graig.

Felly gadawodd ei anwyl briod Ellen a 7 o blant yn myd y gorthrymderau; ac anogodd hwy i roddi eu pwys ar Geidwad Israel, yr hwn ni huna ac ni chwsg.

Cafodd yr ysgrifenydd y fraint o'i gychwyn ar lyfr yr Ysgol Sabbothol, ac ail gychwyn yr achos yn America gydag ef, a darllen a gweddio ar ddydd ei angladd, pryd y pregethodd y Parch. J. J. Eoberts, Columbus. "A minau a adawyd fy hunan."
HUGH ROBERTS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Medi 1860.