MR. JOHN OWEN, PROSPECT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gorphenaf 23ain 1859, yn nhŷ ei fab yn nghyfraith, Mr. Owen Highland, Mr. John Owen, Prospect, Oneida County, yn 72 mlwydd oed.

Yr oedd y trengedig yn enedigol o Bodweiliog, Lleyn, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Symudodd yn lled ieuanc i Gemmaes, Môn; adnabyddid ef yno gan lawer o gyfeilìion wrth yr enw Sion Owen, y Rholiwr. Ymfudodd i'r wlad hon yn 1848, yn nghwmni mab yn nghyfraith a merch iddo, trigodd gyda hwynt yn Prospect hyd ddydd ei farwoiaeth. Yr oedd yn aelod gyda'r Annihynwyr ers rhai blynyddau, ac yr ydym yn hyderus er ei fod ers talm yn amddifad o'i lygaid naturiol, ei fod wedi cael golwg ffyddiog ar Oen Duw yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd.

Hiraethai ers amser am awr ei ymddattodiad, a chanodd yn iach i olygfeydd y llawr a'i bwys ar yr Hwn y credasai ynddo.

Claddwyd ef yn y gladdfa berthynol i'r lle y Llun canlynol, a gweinyddwyd gan y Parch. R. Evans ac Elder Bullock, yn Gymraeg a Saesonaeg.



Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1859.