MRS. MARY ROBERTS, STEUBEN, ONEIDA, NEW YORK.
Ionawr 24, yn ardal Tan yr Hill, Steuben, ar ol cystudd maith, Mrs. Mary Robbrts, yn 71 mlwydd oed. Ymfudodd Mrs. Roberts o'r Ty Tan y Fron yn Nelog, Aberdaron, swydd GaernarFon, i'r America, yn y flwyddyn 1824, yn weddw, gyda ei hunig fab Richard Roberts, yr hwn sydd yu awr yu fyw, i alaru ar ol ei oedranus fam. Ymunodd Mrs. Roberts mewn priodas gyda Robert Roberts, yr hwn oedd yn byw yn ymyl y Capel Uchaf, Steuben, (ond sydd wedi marw ers blynyddau lawer), - a bu byw lawer o flynyddoedd gyda ei mab yn yr anedd hono; ond yn awr ers rhai bìynyddoedd yr oedd yn byw gyda ei mab yn yr ardal lle y diweddodd ei gyrfa ddaearol. Claddwyd ei gweddiliion marwol yn nghladdfa teulu y Store Felen, ger y Capel Uchaf - gweinyddwyd yn y tŷ gan Mr. John W. Roberts, Trefnydd Wesleyaidd, a chan y Parch. R. Everett yn y capel ac wrth y bedd.Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1859
Mary Roberts, native of Tytanyfron Aberdaron, Carnarvonshire, N. Wales, immigrated to America 1824, died January 24, 1859 age 71 yrs.