MRS. CATHERINE THOMAS, LLANBADARN, TRENTON, NEW YORK.

Ionawr 13eg, yn mhlwyf Trenton, Efrog Newydd, ger Llanbadarn, Mrs. Cathahine Thomas, gweddw y diwedddar John Thomas, yn 79 mlwydd oed.

Ymfudodd y teulu hwn i America tua 32 mlynedd yn ôl, o Laniestyn, Lleyn, swydd Gaernarfon. Bu Mrs. Thomas yn wael ei hiechyd yn fynych dros rai blynyddoedd - a'r cystudd a derfynodd ei bywyd oedd y dyfrglwyf. Yr oedd yn ddynes dirion a chyfrifol yn ei chymydogaeth, yn fam dyner ac anwylaidd i deulu lled luosog, ac yn aelod ffyddlon o'r Eglwys Annibynol yn Steuben.

Mwynhaodd gysuron crefydd yn ei mynych a'i blin gystuddiau, a'i phrif awyddfryd yn ei chystudd diweddaf oedd am fod yn barod, ac yn foddlon i ewyllys yr Arglwydd. Claddwyd hi wrth ochr gweddillion ei phriod yn mynwent y Capel Ucha', Steuben. a gweinyddiwyd gan y brodyr R. Everett, H. R. Williams, a R. Evans.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1859.