MISS. ELIZABETH THOMAS, OAK HILL.

BYR GOFIANT AM ELIZABETH THOMAS. A ganlyn sydd ychydig o hanes merch ieuanc yn ei bywyd a'i marwolaeth.

Ganwyd hi yn Melin Heli, swydd Caernarfon tua'r flwyddyn 1840 neu 1841. Ei henw oedd Elizabeth Thomas, merch i William ac Elizabeth Thomas o'r lle uchod.

Ymfudodd i'r wlad hon gyda ei rhieni yn y flwyddyn 1846. Cyrhaeddasant Oak Hill yn Awst y flwyddyn hono. Yn mis Medi canlynol bu farw ei thad a'i hunig frawd, a chladdwyd y ddau yr un diwrnod yn Oak Hill.

Yn mis Mawrth, 1848, bu farw ei hunig chwaer, Catharine, tua 13 ml. oed, fel nad oedd yn weddill o'r teulu ond hi a'i hanwyl fam. Bu hithau farw y 29 o Fawrth, 1859.

Yr oedd wedi ei derbyn yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn Oak Hill yn 1853, gan yr ysgrifeuydd, a pharhaodd yn ffyddlon a di-ofid i'r eglwys hyd ei diwedd. Cafodd wybod am beth tywydd garw yn ei gyrfa fer a chafodd lwyr fuddugoliaeth ar ei gelynion. Gadawodd dysliolaeth lled eglur ar ei hol fod marw yn elw iddi. Dywedodd wrth ysgrifenydd y llinellau hyn ei bod yn cwbl ymorphwys ar Grist, ac nad oedd yn chwenych byw yn hwy.

Y diwrnod cyn ei marw dywedai wrth ei mham nad oedd am gael byw yn hwy, a'i bod am i Mr. Davies bregethu yu ei chladdedigaelh oddiwrth y geiriau, "Am hyny byddwch chwithau barod, canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn." Hysbysai fod arni chwant i ymddatod. Dywedai wrth ei mham, "Paham yr wylwch, mam, dywedwch eich bod yn foddlon i'r Iesu fy nghael." Canai yn aml, "Cymer fi, Iesu, fel yr wyf a.y." Aeth adref yn orfoleddus - cafodd fuddugoliaeth eglur ar angau. O na bai ieuenctyd yr oes yn fwy tebyg iddi yn ei rhinweddau, a bydded eu diwedd fel yr eiddo hithau. Ydwyf yr eiddoch, John A. Davies, Oakhill.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1859.