MR. WILLIAM WILLIAMS, CINCINNATI, OHIO.

Oddiar gyfeiriad ataf drwy y Seren Orllewinol, am gofiant i'n hanwyl frawd ymadawedig, cynygiais ei wneyd fel y canlyn : drwy fy adnabyddiaeth o hono. Yn ei dŷ ef y pregethais gyntaf yma. Bum yu byrddio yn ei dŷ; ac eilwaith yn byw yn un o'r tai nesaf ato am 10 mlynedd dilynol. Drwg genyf nad oeddwn gartref ar y pryd, hyny ac afiechyd a'm lluddiodd i'w wneyd yn gynt.

Yr oedd gwrthddrych ein cofìant yn fab i Mr. John Williams a Jane ei briod. Ganed ef yn mhlwy Llangystenin, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1802 - treuliodd y naill haner o'i amser yn ei fam wlad; am hyny nid oes genyf ddim i'w adrodd. Ymfudodd o Gymru i Utica, Efrog Newydd, yn y flwyddyn 1829, lle y bu yn aros am ychydig amser, ac oddiyno i Cincinnati, Ohio, lle y trigfanodd; ac ymunodd mewn priodas â Hannah Lewis, gynt o Lansamlet, Sir Forganwg, De Cymru. Bu iddynt 4 o blant - mae un wedi marw. Bu ei briod farw yn y flwyddyn 1842.

Ymunodd drachefn â Miss Hannah Thompson o Cincinnati, yn y flwyddyn 1845, yr hon a fu o fawr gysur iddo hyd angau. Bu iddynt hwythau 4 o blant. Bu un o honynt hwythau farw hefyd. Cafodd iechyd da drwy ei fywyd oddieithr rhai troion, a'r tro olaf oedd tua bythefnos o gystudd llym o herwydd ymdrech gormodol wrth dderchafu pren mawr i'w le priodol, nes anafu un o'i ranau tumewnol ar y pryd, yr hyn a drodd yn angau ar y 25ain o Orphenaf yn ei 56 mlwydd oed. Gadawodd briod a 6 o blant, brawd, a'i deulu, a pherthynasau ereill, a brodyr crefyddol lawer, a chydwladwyr i gyd alaru ar ei ôl.

Yr oedd yn gelfyddydwr campus - bu 26ain mlynedd yn yr un gwaith. Cyfrifai y penaethiaid ei waith ef, fel un o'u brodyr. Ei dymer naturiol oedd yn dra heddychol, cymwynwysgar ac arafaidd, ac eto yn ddiysgog er cyrhaedd y gwir nod.

Ar y 27ain, ei gorph a gymerwyd i'w capel am 9 o'r gloch, A. M. Dechreuwyd y wasanaeth grefyddol gan y Parch. E. James. a phregethodd y Parchn. Mr. Holme, o Covington, yn Saesoneg, a Mr. Davies gweinidog y lle, yn Gymraeg, i dyrfa luosog o Gymry a Saeson; yna yr hebryngwyd ei gorph mewn elor feirch gan tua 30ain o gerbydau llawnion, i'w roi mewn bedd yn Nhladdfa Radical.

Awst laf, pregethodd ei barchus weinidog ei bregeth angladdol iddo, oddiar Esa. lvii. 1, 2, yn Saesoneg, i gapelaid llawn o bobl; ac ar Awst yr 8fed, ar gais eglwys y T. C, o ddyfod i'w eglwys i bregethu pregeth Genhedlaethol, er coffadwriaeth barchus o hono, am ei holl garedigrwydd a wnaethai yn ei fywyd i'w gydgenedl, ac er i ereill i'w efelychu mewn crefydd a rhinwedd. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. T. Edwards, a phregethodd y Parch. R. T. Davies, oddiar Phil. j. 23, 24, i dyrfa luosog iawn, ac ar y testyn crybwylledig, gan y dangosai gymaint deimlad y testyn pan yn glaf fel y crybwyllwyd. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."
E. Jones.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1859.