MR. EVAN ELLIS, UTICA, NEW YORK.
Mr. Evan Ellis ydoedd frodor o le a elwir Ty'n y Ffridd, Dolbenmaen, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ganwyd ef Mai 13eg, 1793. Ei rieni oeddynt bobl barchus a chrefyddol. Bu ei dad yn flaenor yn nghyfundeb y T. C. yn yr ardal hono tua haner can' mlynedd, ac ystyrid ef yn ŵr da ac yn un rhagorol yn ei broffes grefyddol, a'i swydd bwysig yn nhŷ yr Arglwydd. Ymunodd Mr. Ellis mewn priodas gyda Miss Letitia Evans o'r un plwyf ar yr 8fed o Fai yn y flwyddyn 1819, a buont yn cyd-drigo yn ddedwydd gyda eu gilydd hyd ddydd ei farwolaeth ef.Yn fuan wedi priodi, sef yn Haf y flwyddyn 1819, daethant drosodd i America. Cyrrhaeddasant borthladd New York, ac yn mhen chwech wythnos aethant i fyny i sefydlfa y Cymry yn Ebensburg, talaeth Pennsylfania. Saer coed ydoedd, o ran celfyddyd.
Yr oedd Mr. Evan Ellis wedi ei ddwyn dan argraffiadau crefyddol pan yn ddyn ieuanc yn Nghymru. Mewn tymor o Ddiwygiad yn ardal Dolbenmaen, daeth hen ddysgybles ffyddlon ato, a dywedodd gyda difrifwch mawr a dagrau wrtho, "Fy machgen bach i, nid wyt ti ddim yn meddwì myned i uffern byth, a wyt ti?" - ac eglurodd iddo ffordd iachawdwriaeth, a dangosodd y pwys annhraethol o'i fod yn dychwelyd at yr Arglwydd gan dderbyn y Gwaredwr a'i drefn rasol heb oedi, a gwneud cyffes gyhoeddus o hono ger bron dynion. Gwnaeth addysg yr hen fam hon yn Israel, yn nghyd â'r pregethau a glywodd y dyddiau hyny argraff ddwfn ac annileadwy ar ei feddwl, - ond yn Ebensburg y derbyniwyd ef gyntaf yn aelod eglwysig, gan yr Anrh. a'r Parch, George Roberts. Yr oedd James Davies o Aberhafesp, diweddar o Gymru, yn Ebensburg ar yr un pryd, a'i weinidogaeth yn dra melus ac adeiladol.
Yn ngwanwyn y flwyddyn 1824 symudodd Mr. Ellis a'i deulu, a rhai Cymry eraill, o Ebensburg i Utica, pan nad oedd Utica ond pentref o tuag 800 o drigolion. Gwnaethant eu taith dros y tir. Nid oedd y capel Cymreig yn Utica y pryd hyny ond adeilad bychan, er mai yr addoldy cyntaf ydoedd a adeiladwyd yno gan un enwad o bobl, o un iaith. Hon oedd y flwyddyn gyntaf ar ôl dyfodiad R. Everett, gweinidog diweddar eglwys gynulleidfaol Dinbych, Gogledd Cymru, i gymeryd gofal yr egìwys fach Gymreig yn Utica. Bu Mr. Eîlis yn aelod defnyddiol a chymeradwy o'r eglwys Annibynol Gymreig yn Utica, dros lawer o flynyddoedd, dan weinidogaeth R. Everett, ac ar ôl hyny dan weinidogaeth James Griffiths a'i ganlyniedydd Evan Griffìths, a bu yn ddiacon yn Eglwys Utica, dros rai blynyddoedd, ac yn ddeiliad cyson a llafurus o'r ysgol Sabbothol.
Yr oedd Mr. E. Ellis yn ddirwestwr ffyddlon, ae yn cydymdeimlo â diwygiadau moesol yn gyffredin yn ei dymor. Yr oedd hefyd yn wrthgaethiwr TRWYADL - yn hyn nid yn aml y ceid ei gyffelyb. Nid oedd am wneud un "compromise" a'r gorthrymwr, er mwyn ei gadw mewn natur dda, ac yntau yn mathru ar hawliau a iawnderau diymwad dynoliaeth. Myned i Affrica, a dal gwyr, gwragedd, a phlant blith draphlith, fel dal anifeiliaid gwylltion mewn anialwch, neu fasnachu am danynt, gyda y rhai a wnant felly, a'u prysuro i gelloedd y gaethlong ddu i'w dwyn o orfod i'r wlad hon, i'w dai dros eu hoes, a'u hiliogaeth ar eu hol yn sefyllfa y caethddyn Americanaidd, a'r cyfan er mwyn elw, a ystyriai Mr. Ellis yn ddrygioni o'r arisawdd waethaf yn erbyn Duw, a dynion. Y gaethfasnach Affricanaidd ydoedd ffiaidd yn ei olwg, a'r u'n gartrefol y slave-dealers, ni ymddangosai iddo nemawr yn llai ei drygau. Yn ei heffeithiau ar foesau a chrefydd yr ymddangosai y system felldigedig hon waethaf yn ei olwg - yn sefylì fel y mae rhwng y dyn a'i Feibl - a rhyngddo a'i Dduw - a rhyngddo a'i hawl i amddiffyn diweirdeb ei briod a'i ferch wylaidd - yn rhuthro i'r cysegr teuluawl, gan ddileu y ddeddf priodasol a'r berthynas rhwng rhieni a'u plant, - a hyny mewn poblogaeth o 4,000,000 o lafurwyr ein gwlad - gan eu hymddifadu o brif gysuron y bywyd presenol, a'u hanghymhwyso a'u hanfanteisio yn y modd effeithiolaf i gyrhaedd dedwyddwch y bywyd dyfodol. Yn yr holl bethau hyn yr oedd enaid y brawd Evan Ellis yn ffieiddio y Gaethfasnach a'r gaethwasanaeth. Yn wir, yr oedd yn ystyried yr holl gyfundren gaeth, yn ei heffeithiau ar y caethddyn a'r caethfeistr a'u teuluoedd, yn ddyhirwch di-gymysg, ac fel y dywedai John Wesley gynt, "It is the sum of all villainies" - dyna yn hollol oedd ei olygiadau yntau ar gaethiwed.
Ofnai Mr. Ellis yn fawr nad yw yr eglwysi Americanaidd, fel cymdeithasau Cristionogol, yn dwyn eu tystiolaeth mor eglur, mor gyson, ac mor llawn ag y dylent wneud yn erbyn y ffieidd-dra hwn. Gwyddai yn dda nad oes hawl gyfreithiol (legal right) gan neb i'w ddileu yn y talaethau caeth Americanaidd, ond y talaethau hyny eu hunain. Ond credai y dylai eu rhwymedigaeth anwadadwy i wneud hyn gael ei ddal allan yn fwy eglur iddynt, ac y dylai bygythion Duw ar orthrymwyr, fel pelenau o dân, gael eu bwrw arnynt gan yr holl weinidogaeth efengylaidd a'r byd Cristionogol, nes yr edifarhaont ac y dygont ffrwythau addas i edifeirwch. Diddymwr (abolitionist) oedd Mr. Ellis yn ystyr helaethaf y gair. Nid oedd dros ddefnyddio arfau angeuol, - ond arfau gwirionedd, ar dde ac ar aswy, trwy ddeheubarth a gogleddbarth ein gwlad - nes dileu yn llwyr y ffieidd-dra hwn oddiar y ddaear - ac yn hytrach nac eangu ei derfynau, mynai na bo lled troed yn bodoli ar un parth o'r ddaear deg hon a roddodd Duw i blant dynion breswylio ynddi, lle bo caethiwed yn cael aros.
Yn y crybwylliad byr hwn o hanes bywyd Mr. Evan Ellis, gweddus yw sylwi iddo roi i fyny ei gysylltiad â'r eglwys Gymreig yn Utica, aç uno gydag eglwys o wrthgaethiwyr a ffurfiwyd gan y Parch. Beriah Green yn Whitesboro. Ond diflanu, fel y deallym, a wnaeth y gynulleidfa fach hono yn raddol, a than y weinidogaeth Gymreig, ac weithiau yr un Seisnig, y bu efe, heb ddyfod i gysylltiad gweledig a rheolaidd ag un gynulleidfa ar ôl hyn.
Bu ei iechyd yn wael dros rai blyneddau, gan annhreuliad a gwaeleddau eraill cysylltiedig â hyny. Cwynai yn fynych gan guriad y galon; os cerddai ychydig yn gyflymach na'i arfer, elai y galon i guro a phallai ei nerth. Yn yr haf diweddaf ymgymerodd â'r dybiaeth, mai y peth goreu iddo oedd cymeryd mordaith i'r hen wlad, ac aros dros dro yn mhlith ei berthynasau ar fryniau a dolydd iachusol Caernarfon, a dychwelyd ar ôl treulio un gauaf yno, os gwelai yr Arglwydd yn dda i hyny fod. Ymgysurai lawer yn y meddwl y caffai gweled gweinidogion anwyl Cymru - Ambrose, Porthmadog; Kees, Liverpool, ac eraill - yn traethu geiriau'r bywyd tragywyddol. Y gair diweddaf a glywsom ganddo, oedd (pan yn ddamweiniol y daethom i gwrdd ag ef ar yr heol yn Utica yr wythnos cyn y Gymanfa ddiweddaf) ei fod yn dysgwyl y byddai yn o sicr o weled a chlywed Mr. Ambrose, Porthmadog, os byddai byw i gyrhaedd dros y môr hefyd, a gofynai a oedd dim gair genym ato. Ar ôl danfon ein cyfarchiad at Mr. Ambrose ac ymddyddan ychydig eiriau, ymadawsom.
Penderfynodd Mrs. Ellis i fyned gyda ei phriod, er ei bod hi yn ofnus iawn na byddai y daith yn ateb fel yr oedd efe yn dysgwyl. Aethant i New York. Gwelodd Mrs. Ellis mai yn hytrach yn waeth yr oedd yn myned fel yr oedd yn nesu at y môr, ac ymdrechodd hyd a allai hi i'w ddarbwyllo i droi yn ôl. Ond pan welodd fod hyny yn ei ofidio a bod ei benderfyniad i fyned yn mlaen yn ddiysgog, ildiodd hithau. Mordwyasant yn yr Agerlong, City of Edinburgh; gadawsant borthladd New York Awst 25ain, ac mewn 13 o ddyddiau cyrhaeddasant borthladd Liverpool.
Aeth yn waeth o lawer ar y môr, a chlaf, iawn a fu efe ar y fordaith. ond yr oedd yn dra addfwyn a thirion, ac ymddiriedol yn yr Arglwydd. Ofnai hi yn aml mai yn y dyfnfor y gwelai ei gladdu, a gweddiai ar ei Thad nefol os gwelai yn dda ganiatau na byddai i hyny fod. Pan gyrhaeddasant Liverpool, yn oedd yn lled wan, ond yn alluog i fyned yn mlaen. Aethant yn uniongyrchol i Bangor a Chaernarfon, a chyrhaeddasant i dŷ chwaer i Mrs. Ellis yn Pen y groes, Llanllyfni, o fewn tuag wyth milldir i'r hen gartref. Ac yno, ar ôl rhai wythnosau o gystudd lled trwm y bu farw Mr. Evan Ellis, Hydref 17eg, 1860, yn 67 mlwydd 5 mis a 4 diwrnod oed. Yr oedd wedi awgrymu wrth ei briod mai ei ddymuniad oedd cael ei gladdu yn yr un bedd a'i dad. Gwnaed felly.
Claddwyd ef yn meddrod ei dad yn mynwent Dolbenmaen, a gosodwyd cof-golofn briodol ar y bedd.
R. EVERETT.
Y BEDDFAEN.
Y geiriau canlynol ydynt yn gerfiedig ar y Beddfaen.
COFGOLOFN
ER NODI Y FAN LLE Y CLADDWYD
EVAN ELLIS
O UTICA, AMERICA,
GYNT O DY'NYFFRIDD, GARN.
Bu farw Hydref 17, 1860,
Yn 67 oed.