MRS. ANN FOULKES, DODGE, WISCONSIN.
Rhagfyr 17eg, Mrs. Ann Foulkes, gweddw y diweddar David Foulkes, gynt o Landdeiniolen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Ymfudasant i'r wlad hon yn 1846, a sefydlasant yn nghymydogaeth Engedi, Swydd Dodge, Wisconsin. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."
Cafodd Mrs. Foulkes ei dwyn i fyny yn grefyddol o'i hieuenctyd - tebyg fod rhyw argraffiadau wedi eu gadael ai ei meddwl er yn foreu, er i'r eginyn aros yu hir yn yr hedyn; ond pan wresogodd yr haul ar ôl rhyw gawod dyner yn y boreu, fe dorodd allan yu eginyn cryf, ac nid hir y bu cyn i'r dywysen ymddangos. Yr oedd gan hon ddigon o grefydd i ffurfio iddi fywyd crefyddol. oblegid y mae yn byw eto yn ei phlant.
Buom yn ceisio dyfalu yn mha le yr oedd cuddiad ei chryfder, am nad adwaenem neb a llai o rwysg crefyddol o'i chwmpas na hi; eto rhaid addef fod ganddi nerth. Meddyliem mai ei chysondeb gyda'i chrefydd oedd ei nerth. Ychydig sydd yn meddwl fod eisieu nerth anghyffredin i fod yn gyson a sefydlog gyda chrefydd, a bod diffyg seydlogrwydd yn brawf o wendid. Cafodd ein chwaer ei rhan o brofedigaethau y byd ond yr oedd rhyw sefydlogrwydd yn ei phrofiad a brofai ei bod yn cartrefu mewn rhyw fyd mwy sefydlog na hwn; a beth wyddom ni nad oedd awelon yn chwythu ar ei hyspryd dros fryniau tragywyddoldeb, fel nad oedd yn gofalu fawr am gyfnewidiadau y gwynt ar yr ynys. Ychydig cyn ei hymadawiad, dywedai wrthyf, "Y mae arnaf eisieu myned adref yn fawr. Bydd arnaf awydd gofyn i'r cyfeiilion, a wnant ofyn i'r Arglwydd a gaf fi fy ngollwng." Ar y dydd nodíad uchod cafodd ei gollwng at ei gwobr, yn 70 mlwydd oed. Bu fyw yn anrhydeddus, a chladdwyd hi yn anrhydeddus.