MRS. ELINOR GRIFFITHS, GRANVILLE.

Gwaith pwysig yw ysgrifenu cofiant. Dylid gochelyd eithafion ar bob llaw, fel na byddom yn mwyhau nac yn lleihau cymeriad y gwrthrych a gofnodir. Gwirionedd ac nid teimlad, ffeithiau ac nid barddoniaeth, egwyddorion ac nid dychymygion, gogoniant Duw ac nid adnabyddiaeth yn ôl y cnawd, a ddylent gyfarwyddo ein bysedd pan yn darlunio bywydau y rhai a gysgant yn llwch y ddaear.

Fel y mae yr ardeb cywir yn wir ddelw o'r gwreiddiol, felly y dylai yr hyn a ysgrifenir adlewyrchu bywyd y dyn y byddom yn rhoddi ei hanes ger bron y cyhoedd. Math o ardeb yw cofiant argraffedig a garir i lawr ar hyd wyneb llifeiriant canrifoedd i genedlaethau newyddion o ddynion; a theg fyddai i ni dynu ei ddelw mor naturiol a pherffaith ag y gall ein hysgrifell ei dynu: oblegid bydd yn rhesymol i'n holynwyr gydnabod ein cofnodion fel ffeithiau gwirioneddol, a barnu oddiwrthynt sefyllfa foesol ein hoes, cyn belled ag y gallont ei chwilio allan. Y dyn fel yr oedd yn sefyll o ran ei gymeriad moesol a'i fywyd crefyddol ger bron y cyhoedd a ddylem ei gofnodi, rhag y bydd dadblygiadau y dydd hwnw yn gwrthddywedyd ein tystiolaethau, ac yn ein gorchuddio â chywilydd.

Dymunem gadw ein golwg at hyn yn yr ychydig ddesgrifiadau a roddwn o fywyd mewnol ac allanol gweddw y diweddar Nicodemus Griffiths. Nid ein hamcan yn y sylwadau hyn fydd profi duwioldeb yr hen chwaer enwog hon, oblegid y mae hyny yn ffaith ddiamheuol er ys ugeiniau o flynyddoedd bellach. Gwnaeth ei bywyd hi ei hun ddyfnach, cywirach a phrydferthach argraffiad ar feddyliau ei chydnabyddion nag a wna unrhyw beth a allwn ni ei ysgrifenu am dani. Ond er hyny, barnwn fod amryw ffeithiau yn gysylltiedig â hanes ei bywyd a allant fod yn ddyddorol ac adeiladol i'r oes hon, yn gystal a'r oesau dyfodol.

Ganwyd Mrs. Griffiths mewn lle a elwir Ystriliwm, plwyf Abererch, ger Pwllheli, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Yr ydoedd yn chwaer i Mr. Robert Thomas, Saethon, (wedi hyny Conwy,) pregethwr cynorthwyol cymeradwy gyda y Cynulleidfaolion yn Nghymru. Nid oes iddi berthynas agos yn ngwlad ei genedigaeth yn bresenol, oddieithr fod rhai o blant ei brodyr yn fyw.

Am foreu ei hoes nid oes genym nemawr i'w ddywedyd yn ychwaneg, nag awgrymu na chafodd fawr o fanteision addysgiadol yn fwy na'i chyfoedion yn gyffredinol. Sefydliadau anghyffredin, dyeithr, a lled ddiwerth ydoedd ysgolion dyddiol yn Nghymru ryw 90 mlynedd yn ôl; ond er hyny cafodd gystal cyfleusterau crefyddol a neb o'i chydoeswyr. Bu yn eistedd dan weinidogaeth yr enwogion Harris, Emmanuel Davies, a Jones o Bwllheli, o'i hieuenctyd hyd ei hymfudiad i'r wlad hon, ac nid gwrando yn unig a wnaeth, ond ufuddhaodd, a rhoddodd ei henaid i'r Ceidwad yn moreu ei hoes. Nis gallwn sicrhau y flwyddyn y dechreuodd broffesu crefydd, (er y tybiwn i ni ei chlywed yn dywedyd fwy nag unwaith.) na pha un o'r gweinidogion a enwyd a roddodd iddi ddeheulaw cymdeithas; ond meddyliwn yn sicr mai yn amser Harris y gwnaeth ei harddeliad cyhoeddus o Fab Duw, oblegid bu yn gwasanaethu amryw flynyddoedd yn nheulu y gŵr parchedig hwnw. Ond fodd bynag yr oedd hi a'i phriod yn aelodau rheolaidd a chymeradwy yn amser Mr. Jones, Pwllheli, fel y profai y llythyrau cymeradwyol a gawsant ar eu hymadawiad â Gwyllt Walia.

Ymadawodd Mrs. Griffìths a'i phriod Mr. Nicodemus Griffiths i America yn ngwanwyn y flwyddyn 1801. Tiriasant yn New York, ac arosasant yno rai misoedd, o herwydd afiechyd; yna cychwynasant yn mlaen, a sefydlasant yn mhlwyf Steuben, New York, yn Hydref yr un flwyddyn. Pan gyrhaeddasant y lle nid oedd yno ond ychydig o Gymry i'w croesawu, a'r gauaf du yn dechreu dangos ei wyneb sarug ac anghymodlawn, yn nghyd a choedwig oesawl yn eu hamgylchynu, yn herio bwyell yr ymfudwr i frwydr.

Yn y gwanwyn canlynol aethant i fyw at Mr. Griffith Rowland i'r tyddyn a elwir Sixty. Gweithient iddo ar hur-ystyrient fod hyny yn fwy manteisiol iddynt nag unrhyw beth arall a allent ei wneud; oblegid nid oeddynt ond ill dau y prys hyny. Yr oeddynt wedi claddu eu cyntaf anedig cyn cychwyn o Gymru.

Yn yr amser yr oeddynt yn byw ar y tyddyn hwn y llosgodd y tŷ. Cymerodd y digwyddiad le yn y nos, ac ni bu fawr rhwng y ddau deulu a syrthio yn ysglyfaeth i'r elfen angeuol a chwaraeai o amgylch eu gwelyau. Mrs. Griffiths oedd yn a ddihunodd, a'i gwaedd gyffrous hi a ddeffrodd y lleill, ac a effeithiodd eu gwaredigaeth. Ni chawsant amser cymaint ag i roddi eu gwisgoedd amdanynt, nac yn wir i'w cymeryd gyda hwynt chwaith. Gorfu iddynt ddianc am eu heinioes er ei bod yn nyfnder y gauaf, (y rhew yn erwinol, yr eira yn ddwfn, a'r awel yn llym,) i dŷ cymydog, heb ddim am danynt ond oedd ganddynt yn myned i'w gwelyau.

Adroddai yr hen chwaer yr amgylchiad hwn gyda gwyneb siriol a chalon ddiolchgar, gan ddywedyd na chaniatâodd y tân iddi hi ffoi a/i chroen i gyd. (Llosgodd y tân ddarn go helaeth o groen ei gwar.)

Gallwn nodi yma y ffaith nad oedd yr un eglwys Gynilleudfaol Gymreig yn y sefydliad pan gyrhaeddasant y lle, ac na ffurfiwyd yr un am rai blynyddau ar ol hyny. Yr oedd yno gymdedithas o Drefnyddion Calfinaidd cyn eu dyfodiad yn mlaen, yn cynal eu cyfarfodydd Sabbothol ac wythnosol yn rheolaidd. Ac yn y flwyddyn 1801 daeth y Parch. John G. Roberts gyda ei deulu i fyw i'r gymdogaeth, a dewisasant ef yn weinidog iddynt. Ni wnaeth Mr. a Mrs. Griffiths uno a'r cyfryw eglwys, oherwydd rhye achosion nad ye yn ofynol eu hadrodd; ond ar yr un pryd presenolent eu hunain yn eu cyfarfodydd, a chynorthwyent yn nygiad yr achos yn mlaen, fel pe buasent yn aelodau.

Pedwar o Gynulleidfaolion gwreiddiol oeddynt yn y lle yr amser yma - hwy eu dau a Mr. Thomas Mills a'i wraig. Yn nechrau gauaf y flwyddyn 1804, penderfynodd Nicodemus Griffiths gyda dau neu dri eraill i fyned i Utica i ymgynghori â'u cyfeillion oeddynt wedi ymgorffori yn eglwys Gynilleidfaol yn y lle, pa un oreu iddynt aelodi eu hunain yno gyda hwynt, neu ynte ffurfio eglwys yn Steuben; a barnwyd yn unfrydol mai gwell fuasai iddynt wneud y peth olaf. Ac yn mis Ebrill, 1805, cynaliwyd cyfarfod yn nhŷ Nicodemus Griffiths, yn yr hwn yr oedd y Parch. Daniel Morris a'i wraig, John Rees, a James Nicholas, o eglwys Utica, yn bresenol, drwy wahoddiad i'r dyben i'w cynorthwyo i ddwyn y symudiad oddiamgylch yn rheolaidd.

Yn y cyfarfod hwn penderfynwyd ar erthyglau cred a rheolaucymdeithas, ac ymgorffolodd ychydig frodyr a chwiorydd cyn ymadael yn eglwys Gynulleidfaol, ac yn eu plith yr oedd gwrthrych y cofiant hwn a'i phriod. Y Sabboth blaenorol cyhoeddodd Nicodemus Griffiths y cyfarfod hwn yn y lle yr oeddynt yn ymgynull i addoli, sef tŷ Mr. Wm. C. Jones, a y rhan luosocaf o'r T, C. yn nghyd ar yr achlysur, a dymunasant ddyfod i mewn at y Cynulleidfaolion i'r eglwys newydd hon.

Dylem grybwyll i Mr. Walter Griffiths, gŵr call, pwyllog a dysgedig, er ei fod yn perthyn i'r T. C., yn wirfoddol gymeryd rhan weithgar iawn yn y symudiad hwn o'i ddechreuad, ac iddo brofi yn gyfaill gwresog i'r eglwys tra yr arosodd yn y gymydogaeth. Nid hir y bu y fechan hon cyn cynyddu, a daliodd ei thir yn wrol trwy yr holl flynyddau nes iddi gyrhaedd ei nerth a'i dylanwad presenol dan weinidogaeth oleu ac efengylaidd y Parch. R. Everett.

Yn ngwanwyn y flwyddyn 1815, ymadawodd hi a'i phriod a'u plant â hen ardal Steuben, a daethant i fyw gerllaw Granville, Ohio. Trwy y symudiad hwn, ymddifadasant eu hunain i raddau helaeth o freintiau crefyddol], oherwydd eu hanadnabyddiaeth o'r iaith Saesoneg. Nid oedd yma y pryd hwnw yr un enwad crefyddol yn addoli yn Gymraeg, ond i eglwys fechan o Fedyddwyr, a byddai yn aml haner eu moddion hwy yn Saesoneg, a gorchwyl go anhawdd i Gynulleidfaolion cydwybodol ydoedd ymwrthod â bedydd taenelliad; felly hefyd i Fedyddwyr cryf ymwrthod â bedydd trochiad. Ond yn mhen rhai blynyddoedd penderfynodd ei phriod a hithau i aelodi eu hunain gyda y Cynulleidfaolion Seisonig a i ymgynullent i addoli yn Granville, ac yno yr arosodd ei phriod yn aelod cymeradwy hyd ei farwolaeth, a hithau hefyd hyd o fewn dwy flynedd yn ôl, pryd yr ymadawodd trwy lythyr rheolaidd, ac ymunodd â'r eglwys Gynulleidfaol Gymreig yn yr un lle. Cymaint ydoedd ei hanwybodaeth o'r Saesonaeg.

Teimlasant yn ddwys y golled ysprydol a gawsant trwy eu symudiad yn mlaen i Ohio. Er hyny cadwasant eu crefydd yn ddysglaer, gwresog, gwrol, a gweithgar. Pan na byddai moddion cyhoeddus yn gyfleus yn yr iaith a hoffent, addolent fel teulu yn eu tŷ eu hunain. Gweddiasant, canasant, esboniasant, a chynghorasant lawer pan nad oedd neb yn bresenol ond hwy eu hunain. Byddent yn hynod o ofalus am gynal y cyfarfod gweddi cenhadol.



Cafodd amryw brofedigaethau lled chwerwon. Collodd 3 o feibion yn eu cyflawn faintiolaeth o gymeriadau moesol da, un yn bregethwr, wedi bron gorphen ei addysg dduwinyddol. Golygai fyned yn genhadwr i unrhyw fan y gweali y gymdeithas yn oreu iddo fyned, cofiant yr hwn a ymddangosodd yn y CENHADWR am Mai 1844.

Bu Mrs. Elinor Griffiths farw oddeutu 2 o'r gloch boreu dydd Mercher, y 5ed o Fedi, 1860. "Y cyfiawn a â i dangnefedd."

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mai 1861.