MR. GRIFFITH GRIFFITHS, PROSPECT, NEW YORK.

Mawrth 22ain 1860, yn mhentref Prospect, Efrog Newydd, o'r Parlys (fel y tybir) Mr. Griffith Griffiths, gynt o Landegai, Gogledd Cymru, dinasydd cyfrifol ac un o'r hen sefydlwyr, tua 83 mlwydd oed, gan adael gweddw oedranus, meibion a merched mewn galar ar ei ôl.

Claddwyd ef yn mynwent Penycaerau, a gweinyddwyd gan y brodyr Richard W. Jones a R. Everett.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1860.