MR. JOHN W. JONES, FLOYD, NEW YORK.

Ebrill 6ed, yn Floyd, Efrog Newydd, ar ôl hirfaith gystudd, tebyg i ddarfodedigaeth, Mr. John W. Jones, aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn Floyd, yn 55 mlwydd oed er mis Awst diweddaf.

Mab ydoedd i William a Jennet Jones o Langybi, swydd Gaernarfon. Yr oedd ei fam yn chwaer i'r Parchedig a'r ffyddlawn William. Hughes, Dinas Mawddwy.

Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1832. Ffurfiodd benderfyniad difrifol tra ar ei fordaith, os arbedid ei fywyd yn y fordaith hono, yr arddelai enw yr Iesu ac yr ymofynai am le yn mhith teulu Duw - a gwnaeth felly. Mae yn debyg, (er nas gwyddom gyda sicrwydd am hyny) mai yn eglwys Gynulleidfaol Utica y derbyniwyd ef gyntaf yn aelod eglwysig.

Yr oedd yn ŵr cyfrifol yn mhlith ei gyd-ddinasyddion, yn bleidiwr rhyddid a sobrwydd, yn dad a phriod gofalus, tyner, ac anwylaidd iawn, ac yn aelod ffyddlawn o eglwys Dduw.

Yn Floyd yr oedd yn trigianu er's llawer o flynyddoedd, llwyddwyd ef, nes dyfod i amgylchiadau cysurus a helaeth. Yr oedd yn un o sefydlwyr cyntaf yr achos crefyddol Cymreig yn Floyd, a glynodd gyda gwaith ei Arglwydd byd angau. Gadawodd weddw a phump o blant mewn dwfn alar ar ei ôl, y rhai a weinyddasant yn ymgeleddgar ac anwylaidd iawn tuag ato dros dymor maith ei gystudd.

Cwynai yn fynych na buasai ei obaith yn fwy clir - ofnai dwyllo ei hun yn mater mawr ei gyflwr tragwyddol. Ond yn ei oriau diweddaf ac yn agos i'w fynydau diweddaf, dywedai wrth ei frawd Elias Williams, "Ofnais lawer am fy nghrefydd rhag twyllo fy hun, (neu eiriau cyffelyb,) ond heno y mae hi yn gwbl dawel arnaf;" yna adroddai y geiriau hyny, 'Y mynyddoedd a giliant a'r bryniau a symudant, eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi-wrthyt a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau wrthyt." Dywedai fod y cyfamod yn eithaf cadarn, a bod ei enaid yn ymorphwys yn gwbl ynddo - ac felly ymollyngodd ein hanwyl frawd i hun dawel, fel y mae ein gobaith, yn yr Iesu.

Claddwyd ef yn mynwent Floyd, a gweinyddwyd gan y brodyr R. W. Jones, T. T. Evans a R. Everett.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mai 1860.