MRS. MARGARET JONES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ar yr 31ain o Awst, ar ôl ei anwyl briod, Mrs. Margaret Jones, yn mhen wythno» a diwrnod y gorphenodd yntau ei dymor bywyd, ar ôl dwy wythnos o gystudd trwm. Cymerwyd hi yn glaf ychydig ddyddiau ar ôl iddo ef gael ei gymeryd yn glaf, a bu hi farw ar y 23ain o Awst, ac yntuu ar y 31ain o'r un mis. Ac felly collwyd y teulu megis ar unwaith, o'r pentref a'r capel a'r cwbl.Yr ydoedd y ddau wedi ymfudo o Gymru, - o Leyn, sir Gaernarfon — efe yn y flwyddyn 1800, a hithau flwyddyn neu ddwy ar ei ôl. I Philadelphia y daethant; priodwyd hwynt yno tua'r flwyddyn 1805, a symudasant oddiyno yn 1810, i blwyf Trenton, ar y ffordd o Remsen i Prospect, lle y buont yn byw ar dyddyn bychan oedd y pryd hwnw o'r bron dan goed i gyd. Bu iddynt ddeg o blant, 4 wedi meirw, a'r 6 eraill yn fyw i alaru ar eu hol, pa rai a fuant yn ffyddlon iawn tuag atynt yn eu cystudd ac a'u claddasant yn barchus yn Penycaerau.
Yr oeddynt a buont ar hyd yr oes yn llafurus a diwyd iawn gyda eu hamgylchiadau bydol, gwelsant lawer o galedi a llafur i allu byw a chodi teulu i fyny ar y pryd hyny, Cyfarfuant â chystuddiau hirfaith yn y rhai a fuant feirw o'u blaen. Eangwyd ar eu hamgylchiadau bydol ar ôl magu y plant, a meddianasaut dyddyn arall at yr un cyntaf. Ond gorfodwyd hwy gan henaint a gwaeledd i roddi y lle i fyny, a dyfod i'r pentref i orphen eu tymor bywyd.
Yr oedd y ddau yn proffesu crefydd yn yr Eglwys Annibynol yn Remsen. Dechreuodd hi ei phroffes yn Nghymru, mewn diwygiad yn Uwch Mynydd - a phan ddaethant i'r ardal hon, ymunodd hi â'r Eglwys yn Steuben, lle yr ydoedd y ddau enwad yn ymuno y pryd byny, a buodd hi yn Penycaerau am amryw flynyddoedd. Ac yn y flwyddyn 1838 yn yr adfywiad mawr hwnw cadd yntau y fraint o ymuno â chrefydd, pan wedi cyrhaedd dros 60 o'i oedran, a buodd y ddau yn ynghyd yn aelodau ffyddlon yn yr Eglwys yn Remsen hyd ddydd eu marwolaeth. Yr oeddynt yn aelodau cyson iawn yn moddion gras, ymdrechgar trwy lawer o waeledd. Yr oedd eu lle yn llawn yn wastad, fel y bydd yn chwith iawn ar eu hol. Ni chafodd hi ddweyd yr un gair yn ei chystudd; ond dywedodd ddigon yn ei bywyd pwy oedd ei phobl a'i Duw. Yr oedd ei hyder ef yn cryfbau wrth fyned bellach bellach i ddyfroedd yr afon hyd nes yr aeth yn rhy bell i ni allu ei ganlyn.
Gwelsant rai o'u plant wedi ymuno â chrefydd yn eu bywyd, a'u dymuniad ydoedd gweled y gweddill hefyd. Cyrhaeddasant i oedran mawr, y hi yn 79 ac yuteu ar ei 84 mlwydd.
Gweinyddwyd ya eu hangìadd gan yr ysgrifenydd.
MORRIS ROBERTS.