MR. THOMAS H. OWEN, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Chwefror 14eg, 1860 yn Auburn, Efrog Newydd, y brawd anwyl, Thomas H. Owen, o blwyf Trenton, swydd Oneida, yn ychydig dros 59 mlwydd oed.

Yr oedd yn fab i Owen H. a Mary Owen o Benymaes, Uwchymynydd, Aberdaron, Caernarfon.

Ymfudodd i America yn nheula ei dad yn y flwyddyn 1823. Ymunodd yn y sefyllfa briodasol gyda Miss Jane Griffiths, Rhagfyr 15, 1824.

Bu iddynt 13 o blant, un ferch yn unig (Elinor yn wraig briod) a fu frw o flaen ei thad, y 12 ereill gyda eu hanwyl fam ydynt wedi eu gadae! mewn dwys alar ar ei ôl.

Daeth i fwynhau crefydd ac ymunodd â'r eglwys Gynulleidfaol yn Steuben yn yr haf, tua'r flwyddyn 1826, 33 o flynyddoedd i'r haf diweddaf, a glynodd gyda ei broffes ac yn nghymdeithas ei frodyr yn yr un lle hyd ei farwoiaeth. Ei gystudd oedd yr hyn a elwid gau rai meddygon yn dymchwydd ("tumour") ar ei ystlys, ereill a ystyrient mai y ddafad wyllt (cancer) ydoedd.

Torwyd y tumour ymaith unwaith gan feddyg y teulu Dr. Guiteau o Trenton, wedi hyny cododd yn fwy a gwaeth nag o'r blaen. Yr oedd yn bresenol dan ofal meddyg deallus a chlodfawr yn y fath achosion yn Auburn, dan olal yr hwn y bu, a'i anwyl briod gydag ef, tua 7 wythnos. Ond gwaethygu a wnaeth y clwyf, a chan fod ei gyfansoddiad yntau yn rhy wan i ddal y driniaeth reidiol ar y fath amgylchiad, terfynodd yn angau iddo. Mae y meddyg yr oedd dan ei ofal yn ddyn crefyddol, o deimladau tyner, ac yn cael ei ystyried yn dra medrus yn ei alwedigaeth. Tro mawr oedd hwn. Aethai oddi cartref gyda y gobaith o gyrhaedd gwellhad, ond gorfu i'w briod alarus a thrallodus ei ddwyn adref yn ei arch, yn dra annysgwyliadwy i'r teulu lluosog â'r holl ardal.

Yr oedd Thomas H. Owen yn briod anwylaidd a ffyddlawn, yn dad tyner a thra llariaidd, yn gymydog cyfrifol a pharchus, ac yn frawd anwyl a gwerthfawr yn yr eglwys. Teimlwn oll y golled yn fawr ar ei ôl. Nid oedd heb ofnau a phryder yn fynych yn nghylch sylfeini ei obaith; eto teimlai ei ymddiried yn y Gwaredwr ac yn nghadernid y drefn yn gwbl ddiysgog ers meithion flynyddau. Dymunai yn fawr gael gwellbad o'i gystudd; ond fel yr oedd yn dyfod i ganfod yn fwyfwy eglur mai ewyllys ei Dad nefol oedd ei gymeryd ato ei hun, yr oedd yntau yn dyfod yn fwyfwy tawel i ollwng ei afael o bob peth gweledig ac i hiraethu am addfedrwydd i'w gartref tragwyddol fry.

Bu farw yn Auburn, dygwyd y gweddillion marwol adref, a chladdwyd ef yn mynwent y Capel Ucha', Steuben - pregethwyd ar yr achlysar i dyrfa fawr gan R. Everett a M. Roberts, oddiwrth Salm 23: 4, a Heb. 11: 21.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1860.