MRS. ANN OWENS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mrs. Owens ydoedd ferch i Mr William a Mary Hughes, Tanyrallt, plwyf Berch, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.Ymfudodd gyd a'i rhieni i'r America yn y flwyddyn 1831. Enillwyd ei meddwl at yr Arglwydd yn y gauaf canlynol — rhoddodd ei hun iddo, ac hefyd i'w bobl yn y canlyniad. Derbyniwyd hi yn aelod eglwys gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Utica.
Ymunodd mewn priodas gyda Mr. Owen O. Owens yn y flwyddyn 1834. O gylch blwyddyn wedi priodi symudasant i grtrefu i ardal Penycaerau, plwyf Remsen, lle y bu yn ffyddlon a diwyd gydag achos Iesu Grist hyd nes iddi symud gyda'r teulu i ymyl Remsen i artrefu; ac ar gais amryw gyfeillion crefyddol darfu iddi gyda'i phriod ymuno gyda'r un enwad crefyddol yn Remsen yn y flwyddyn 1835, a buont yn gynorthwy mawr iddo yn mhob golygiad. Pan oedd "Jacob" megys ar lawr, dangosodd ffyddlondeb ato a chynorthwy iddo, tuag at ei "gyfodi" a'i ddal hefyd i fyny.
Yr oedd ei chalon a'i thŷ hefyd yn agored i dderbyn gweision Iesu Grist; caent yno y derbyniad siriolaf a'r caredigrwydd mwyaf bob amser. Lled ddystaw ydoedd o ran tuedd naturiol, ond bob amser yn sirioî. Gellir dweyd amdani bod iddi "air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Yr oedd ein chwaer wedi dysgu dwy wers ag y mae cannoedd sydd ar enw Crist heb eu dysgu, sef "attal ei thafod," a "gwarchod gartref yn dda." Yr oedd yn ngyfarwydd yn yr ysgrythyrau; a chanddi ddirnadaeth hefyd yn egwyddorion yr athrawiaeth sydd yn ôl duwioldeb.
Gadawodd dair o ferched ar ei hol yn myd y gorthrymderau. Gweddiodd lawer drostynt, a rhoddodd gynghorion dwysion iddynt. Darfu iddi ei maethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Cawsant eu dwyn i fyny yn grefyddol, ac y maent yn aelodau yn eglwys Crist. Ond er mor anwyl oedd Mrs. Owens gan ei theulu - gan yr eglwys - a chan y gymydogaeth, bu farw. Bu farw yn lled ddirybudd yn 49 mlwydd oed. Croesodd yr hen Iorddonen i dir ei gwlad. Ei geiriau olaf oeddynt, (a'i hanwyî briod bron methu eu deall,) "O gariad, O gariad!" Ac mewn ychydig oriau wedyn, newidiodd y byd hwn am y nefoedd - yr anialwch am diroedd hyfryd Canaan. Rhoddwyd y cleddyf o'i llaw, a gwisgodd y palmwydd - rhoddwyd y groes i lawr, a gwisgodd y goron - peidiodd ag wylo, a hwyliodd ei thelyn - rhoddodd heibio y galaru, a dechreuodd adseinio anthemau y nef - ac aeth o'r eglwys filwriaethus i'r eglwys orfoleddus.
Bu farw er pob ymdrech dynol. Bu farw er dagrau príod a phlant; ond cafodd farw yn nghanol cyfeillion. Bu farw yn eglwys Crist. Bu farw heb lychwino ei gwisgoedd crefyddol. Bu farw, ac yr oedd marw yu elw tragwyddol iddi.
AUGUSTINE.