MRS. CATHERINE PRITCHARD, RACINE, RACINE COUNTY, WISCONSIN.
Hydref 7fed, yn Racine, Wisconsin, ar ôl misoedd o nychdod, Mrs. Catherine Pritchard, priod Mr. David Pritchard, yr hon ydoedd ferch i Ann a John Rowlands, Pentir, ger Bangor, Gogledd Cymru.Bu yr hen ŵr ei thad yn cyflawni swydd diacon yn ffyddlawn am faith flynyddau pan oedd Methodistiaeth yn ei mabandod yn y fro. Yr oedd gan ei blant oll dalent hynod at gerddoriaeth, yr hyn oedd nodedig yn Mrs. Pritchard. Maethodd hithau yr un duedd yn ei theulu lluosog.
Daethant o Gymru i'r dref hon bymtheng mlynedd yn ôl. Yr oedd ei chalon yn gynhes at achos ei Gwaredwr trwy y blynyddau. Pan y caethiwyd hi gan gystudd, troes ei llafur boreuol, yr adnodau a ddysgodd, a'i hymorphwysiad cyson ar gadernidl y cyfamod, yn gysur cryf iddi. Yr oedd yn aml mewn sain can a moliant pan yn rhy wan i ymsymud yn ei gorweddfan; "O fryniau Gaersalem ceir gweled a.y.," a'i gyffelyb a seiniai yn beraidd iawn. Ymfoddlonai i ewyllys Duw yn nghylch cael adferiad, ac ambell dro byddai "mewn chwant î'w datod," yr hyn yn dawel a digyffro a gymerodd le boreu Sabboth, gan adael priod a deg o blant i gofio am dani gyda dagrau. Bu yn proffesu crefydd am 33 o flynyddau.
Dydd Mawrth, ymgynullodd torf fawr iawn gyda cherbydau lawer i dalu y gydnabyddiaeth olaf. Cymerodd y brawd John Jones ran yn y gwasanaeth crefyddol ar yr amgylchiad, a phregethwyd yn y capel oddiar "A marw sydd elw," gan Thomas. H. Roberts.