MR. JOHN PUGH. PHILADELPHIA..
Rhagfyr 3ydd, 1860, yn Philadelphia, hunodd yn yr Iesu, yr hen dad duwiol, Mr. John Pugh, yn 81 mlwydd oed.Ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw Cysywallt, yn mhlwyf Llanycil, ger y Bala.
Cafodd ei ddwyn at grefydd pan yn ieuanc o dan yr hybarch Dr. Lewis, pan yn gweinidogaethu yn Llanuwchlyn, a bu yn proffesu dros yr yspaid maith o 60 mlynedd. Parhaodd yn1 ffyddlon gydag achos Iesu Grist hyd y diwedd.
Bu yn glaf am tua dau fis - dyoddefodd ei gystudd yn dawel gan ymorphwys ar drugaredd ei Dad nefol, fel unig sylfaen ei obaith ato fywyd tragywyddol.
Daeth i'r wlad hon tua chwe' blynedd yn ôl o Birmingham, Lloegr; gyda theulu ei fab William, yr hwn oedd wedi eu blaenori y flwyddyn cyn hyny : gydag ef yr oedd yn byw, a chafodd ymgeledd dyner yn ei iechyd ac yn ei gystudd. Bu yn gymorth mawr i'r achos yn y Capel Cymraeg, ac yr oedd yn feddiannol ar wybodaeth helaeth yn yr Ysgrythyrau. Dywedai air yn fynych wrth ddarllen pennod yn y cyfarfodydd gweddio, a hyny bob amser i'r pwrpas, er dangos cariad y Tad yn rhoddi ei unig anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo. Yr oedd ei holl enaid yn ei eiriau, llefarai o helaethrwydd ei galon, gweddiodd lawer am lwyddiant yr achos yn ein plith, ac nid oedd braidd adnod yn y Beibl nad oedd yn gwybod amdani - yr oedd megys yn Fynegair byw yn hyny.
Ond y mae wedi dianc o fyd y gofidiau, oddiwrth ei waith i dderbyn ei wobr, o gario'r groes i dderbyn y goron.
Daiarwyd ei weddillion yn mynwent yr "Odyddion," mewn beddrod perthynol i'w fab Hugh, lle yr oedd dau o'i wyrion yn gorwedd eisoes.
Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Proff. W. Morris o eglwys y "Plymouth Brethren." Cyn cychwyn o'r tŷ, ac ar lan y bedd, gwnaeth sylwadau priodol i'r achlysur oddíwrth 1 Thes. iv. 13, 14. Canwyd yr hen bennill hwnw cyn cychwyn o'r tŷ ag oedd ef ei hun wedi ei ganu laweroedd o weithiau, "Cofia f'enaid cyn it' dreulio," a.y., felly rboddwyd i orwedd yn y bedd dystaw hyd ganiad yr udgorn un ag oedd anwyl gyda ni, ac yn anwyl gan Dduw, ac wedi ei alw i fod yn sant.
D. JONES.