MR. GRIFFITH RICHARDS. RACINE, RACINE COUNTY, WISCONSIN.
Hydref 12fed, 1860, bu farw Mr. Griffith Richards, Dolgau, Pike Grove, ger Racine, Wisconsin. Y genad gan angeu i gyrchu ein brawd adref oedd yr apoplectìc ffit. Ni chafodd ymdroi dim ar faes y frwydr - mewn eiliad hunodd yn yr Iesu pan yn 72 mlwydd oed. Disgynodd ei goffadwriaeth hyd yma i ddystawrwydd gyda ei gorff i'r bedd. Er nad oes gair wedi ei gofnodi am dano, mae perarogl ei fywyd yn llanw y gymydogaeth bob dydd, a bydd ei goffadwriaeth gyda'r cyfiawn byth yn fendigedig.Ganwyd Mr. Richards yn Tyddyn y Felin, plwyf Llanddwywe, Dyffryn Ardudwy, Meirionydd, Gogledd Cymru. Ei dad a'i fam oeddynt Richard a Jane GrifHth. Ymunodd a chrefydd tua'r flwyddyn 1836, yn mhlith y brodyr y Methodistiaid Caifinaidd, yn Horeb, Dyffryn Ardudwy.
Daeth ef a'i anwyl bríod a'u dau fab i'r w!ad hon yn y flwyddyn 1841. Glaniasant yn iach yn New York Mehefin 1af; daethant oll yn llaw rhagluniaeth dadol y nef i'r ardal hon. Wedi llygadu ychydig o gwmpas, hoffodd Mr. Richards y lle, prynodd yma lawer iawn o dir, lle y sefydlodd ei babell ei hun, yr hon a alwodd ar enw ei Ffarm yn yr Hen Wlad, Dolgau. Bu yr Haul yn llewyrchu ar ei babell, ei lwyddiant yn fawr, a'i gynyrch yn doreithiog.
Yn y flwyddyn 1849, cafodd ar ei feddwl i ymuno â'r Annibynwyr yn y Pike Grove. Bu yno yn cael llawer "myn" i fod "yn llawen." Profodd fod ei wraidd yn erbyn Amalec, a'i anadl gyda Deddfwr Israel. Daliodd linyn ei grefydd cyhyd a llinyn ei fywyd, a diwedd y gwr hwnw oedd tangnefedd.
Fel dyn yr oedd yn naturiol fywiog. Pa beth bynag yr ymaflai ei law ynddo, yn lle siarad am dano, ac edrych arno, gwnai ef â'i holl egni. Yr oedd di-wydrwydd y wenynen, gwroldeb y llew, ac addfwynder yr oen wedi cyd-gwrdd yn nodweddiad ein brawd. Yr oedd yn Benjaminiad trwyddo, amcanai i drwch y blewyn. Os dygwyddai rhai gael arcboll, byddai gyda'r cyntaf i gymhwyso'r feddyginiaeth. Llaw agored i'r angenog fu ei law nes ei chaued gan angeu. Fel crefyddwr bu yn fanylaidd a gofalus iawn yn ei deulu, ac yn yr eglwys. Mynai efe aberth ar allor preswylfa Jacob yn gystal a mawl yn mhyrth merch Seion. Yr oedd yn hynod o onest yn ei holl bethau crefyddol a gwladol. Er prawf o'i haelioni, heblaw llawer o bethau a ellid eu henwi, gadawodd yn ei ewyllys ddiweddaf $1000 er cynorthwyo i gynal achos y Gwaredwr mawr yn y Pike Grove tra byd yn bod. Ac wedi bywyd llafurus, defnyddiol a llwyddiannus fel crefyddwr a gwladwr, y newydd diweddaf am dano yw, efe a fu farw.
Ar yr 2il o Ionawr, 1862, canlynwyd ef trwy'r afon gan ei anwyl weddw, Mrs. Anne Richards, yn 83 mlwydd oed. Merch oedd hi i Thomas ac Ann Jones, Maes y Llyn, Llanfihangel Penant, Meirionydd, Gogledd Cymru. Derbyniwyd hi yn aelod eglwys gan y Parch. Evan Evans yn y Dyffryn Ardudwy, o gwmpas 35 o flynyddau yn ol. Dechreuodd yn foreu blanu ei thraed ar lwybrau rhinwedd a chrefydd, llanwodd gymeriad y Cristion, yr oedd ei bywyd yn filwriaeth dda, a'i hangeu yn fuddugoliaeth, a bydd ei thragwyddoldeb yn wobr i'r fuddugoliaeth a gafodd. Diau pe buasai deg o'i bath yn Sodom y buasai Sodom yn aros hyd heddyw. Yr oedd iddi fel Demetrius air da í gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun.
Bu'r gwragedd gweddwon yn wylo ac yn dangos y peisiau a'r gwisgoedd a wnaethai Dorcas yn hir wedi iddi farw. Nid eleni na'r flwyddyn nesaf yr anghofir caredigirwydd ein chwaer ymadawedig tua'r Pike Grove a Racine. Nid wyf yn amheu dim na fuasai'r cerub yn gwenu gweled rhyw un yn ysgrifenu ar glawr ei barch hi, "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth."
Ymddangosai yn fwy siriol nag arferol yn yr oedfa prydnawn y Sabboth diweddaf o'r flwyddyn ddiweddaf. Yn mhen tuag awr wedi mynd adref, aeth i gwrdd a brenin y bedd, trwy syrthio ar y grisiau. Aeth ei mab Mr. Richard Richards mor gyflym ag y gallai yr anifail fyned i ymofyn cymhorth; cawd hyny, ond yn ofer; oblegyd marw a wnaeth hi.
Rhoddodd gam esmwyth dros afon angeu; dringodd fryniau gogoniant mor ysgafndroed ag archangel. Llais uchel ei thafod mudo'r bedd yw - gwrandawed pawb, "Am hyny byddwch chwithau barod." Ymgasglodd tyrfa gyfrifol a lluosog y dydd Sadwrn canlynol i wneud y caredigrwydd olaf iddi. Rhoed ei llwch yn barchus lle y gorphwys y rhai lluddedig.
Gweinyddwyd yn yr angladd gan yr ysgrifenydd. Bellach mae'r tad a'r fam wedi myned. Mae'r ddau fab yn aros yma eto, a'r Arglwydd yn ei drugaredd wedi ac yn parhau i'w hymgeleddu a'u cynysgaeddu ag eiddo a chyfoeth lawer.
"O'm calon mi ddymunwn
Fendithion fil i hil y rhai'n."
William J. Hopkins. Racine, Ionawr 25ain, 1862.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1862.
MR. GRIFFITH RICHARDS. RACINE, RACINE COUNTY, WISCONSIN.
I Griffith Richards of the Town of Mount Pleasant, County of Racine and State of Wisconsin being of sound mind and memory do make declare and publish this my last Will and Testament in manner following :First. I give devise and bequeath to my beloved wife Ann Richards the sole use benefit control and enjoyment of all my Estate both real and personal during her natural life.
Second. I give and devise to my grandaughter Laura Ann Richards the daughter of my son Richard Roberts all my real estate consisting of my homestead where I now reside of sixty one acres - three and a half acres at the corner of the Planto Road and adjoining lands of Morris Jones row Frank and ten acres of timbered lands adjoining the lands of my son Richard Richards subject to the occupation use benefit and enjoyment of my wife Ann Richards during her natural life as aforesaid and after her decease - to the said Laura Ann Richards her heirs and assigns forever.
Third. I give and bequeath to my sons - Richard Richards and Thomas Richards all of the rest residue and remainder of my personal estate goods chattels choses in actions of every name kind and description whatsoever to be divided equally between them share and share alike subject to the use and enjoyment and benefit of my wife Ann Richards during her natural life as aforesaid. And so further to the payment satisfaction and discharge of .... of all lieus or incumberances upon my real estate to be first paid and discharged as aforesaid. And subject further to the payment of the sum of one thousand dollars to Thomas Richards and Richard Rollins in trust as hereinafter mentioned.
Lastly. I give and bequeath to Thomas Richards and Richard Rollins, Deacons of the Presbyterian Church of Pike Grove and their ..... in Office the sum of one thousand dollars in trust for the support of the Minister of said Church to be invested in Bond and Mortgage on unincumbered real estate and the annual interest to be apportioned to the yearly support of such Minister - to be subject nevertheless to the use benefit and enjoyment of my said wife Ann Richards during her natural life as aforesaid and not to tkae effect until after her decease.
In witness whereof I have hereunto set my hand and seal this Twenty Six day of November in the year of our Lord, one thousand eight hundred and fifty ....
The above instrument consisting of one sheet was at the date thereof signed sealed published and declared by the said Griffith Richards as and for his last Will and Testament in the presence of us who at his request and in his presence and in the presence of each other have subscribed our names as witnesses thereto.
Peyton R. Mugan
Thomas J. Emerson
Alonson H. Lee