MR. ELLIS ROBERTS, MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.
Chwefror 2il, 1860, yn 8 mlwydd oed, Ellis Roberts, ail fab Edward ac Ann Williams, Middle Granville, Efrog Newydd, gynt o Bethesda, Gogledd Cymru.Y clefyd o ba un y bu farw oedd y dwymyn tŷphoid. Cymerwyd ereill o'r tenlu yn glâf o'r un afiechyd; ond trwy dynerwch "Tad y trugareddau," efe yn unig a gymerwyd ymaith gan yr angau. Ac er ei fod yn anwyl iawn gan ei rieni, cawsant ryw arwyddion ynddo o addfedrwydd i farw, ac a duoddodd i'w cymodi a'r amgylchiad chwerw, yn fwy tawel o lawer nag yr oeddynt yn dysgwyl ar y cyntaf fod yn bosibl.
Yr oedd yn flodeuyn prydferth yn eu gardd hwy - y tecaf a'r harddaf yn eu golwg - ond benthyg oedd!
A'r Hwn a'i rhoddodd a'i dygodd ymaith, i'w blanu mewn gardd brydferthach a hinsawdd burach. Yr oedd o ran tymhor naturiol yn fachgen bach nodedig o addfwyn a llariaidd, ac arwyddion amlwg ers llawer dydd o'i deimladrwydd i argraffiadau crefyddol. Dywedai yn ddwys unwaith wrth un o'i gyfeillion bach, "y buasai yn dda ganddo pe buasai erioed heb bechu, a phe buasai wedi marw yn faban bach, cyn gwneyd dim drwg."
Ac ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth, gofynai ei dad iddo, "Pa un well ganddo ai marw a myned at Iesu Grist, ai byw, ac aros gyda'i dad ai fam? "O!" atebai yntau, "'gwell genyf fyned at Iesu Grist os cai." Yr oedd yn hynod iawn pan yn yr ymdrech ddiweddaf â "Brenhin y Dychryniadau;" a dim ond dwy awr cyn tynu yr anadliad olaf dechreuodd adrodd gweddi yr Arglwydd. Bu yspaid yn myned drosti gan mor galed oedd y frwydr rhwng bywyd ac angau; ond er cael ei ddirdynu yn boenus daliodd ati nes cyrhaedd yr Amen yn fuddugoliaethus; ac yna cymorodd ei hun yn dawel yn mreichiau ei Dad nefol.
Chwefror 6ed aed a'i weddillion bychain o'r tŷ i'r bedd. Y Parch. R. L. Herbert yn cyflawni y gwasanaeth crefyddol ar yr achlysur. Yn blaenori cludiad y corph i'r gladdfa yr oedd tuag ugain o fechgyn at oed y trengedig, yn cydgerdded yn orymdaith drefnus - dau a dau; ac yn ei ganlyn fwy na dau gant o Gymry, a llawer iawn o Americaniaid. Aelodau o eglwys y T. C, ydynt rieni y bychan ymadawedig blaenorol, a thrwy hyny cafodd yntau y fraint o'i fedyddio, a'i fagu yn y gyfeillach eglwysig o'i febyd; ac yr oedd y priodoldeb o hyny yn amlwg yn ei ddrych feddyliau bychain. Dygwyddodd tro bach, nid yn hollol anheilwng o sylw, feddyliem, rhyngom ninau, Golygydd gwreiddiol y Cyfaill, a'r bachgenyn hwn, ar un ymweliad diweddar â Middie Granvìlle. Trwy ryw anffawd. nad gwerth ei gyhoeddi, darfu i ni ddisgyn o'r gerbydres yn Granville, yn lle Middlo Granville; a'r canlyniad oedd i ni ddyfod i'r pentref ar hyd ffordd annysgwyliadwy, ac heb neb yn ein dysgwyl i'n cyfarwyddo i'n llety; ac yr oedlym mewn gwirionedd yn dechreu petruso pa le i fyned. Ond ar yr eiliad canfyddecm y bachgenyn hwn, yn anadnabyddus i ni y pryd hwnw, yn gadael ei gyd-chwareuyddion, ac yn dynesu atom, er nas gwelodd ni ond unwaith erioed o'r blaen, a gwên siriol ar ei wyneb, gan ddywedyd, "Mr. Rowlands y'ch chwi, ac i'n tŷ ni yr y'ch i ddyfod - dewch y ffordd hyn gyda mi." Yn wir, pan glywsom am farwolaeth ein arweinydd bychan siriol, nis gallem lai na meddwl am un o weddnodau neillduol tyrfa y deheulaw - "Bum ddyeithr, a dygasoch fi gyda chwi." Caffer Ellis bach a ninau oll yno.