MR. JOHN J LEWIS, UTICA, EFROG NEWYDD.

Ymfudodd John. J. Lewis, a'i wraig, yn nghyd a dau o blant, o'r Fedw-arian, ger y Bala, i'r wlad hon yn y flwyddyn 1828.

Bu yr ymadawedig yn afiach am oddeutu naw mlynedd.

Cyn terfyn ei ddyddiau tròdd ei drwm gystudd yn ddyfrglwyf, yr hwn a orphenodd yn angeu Rhagfyr 17eg, 1840.

Gadawodd i alaru ar ei ol weddw a chwech o blant, pa rai a wyddant, trwy brofiadau gofidus, pa beth yw colli priod tyner a thad gofalus.

Yn unol â'i ddymuniad, claddwyd ef yn mynwent y Bedyddwyr, Trenton Ddeheuol.

Ar yr achiysur galarus, pregethodd Mr. T. T. Evans, (gynt o Lanidloes.)

Yr oedd Mr. Lewis yn dderbyniwr cysson o'r 'Cyfaill,' ac yn ei gymeradwyo yn fawr bob amser.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1841