MRS. ELEANOR LLOYD, ALBANY.

Mrs. Eleanor Lloyd ydoedd ferch i un W. Howels, o dref Caernarfon, Gogledd Cymru. Hi a briododd un Edward Lloyd, o gymydogaeth y dref uchod, yn y flwyddyn 1785, pan yn bedair-ar-bymthed oed ; a symudasant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1796.

Wedi dyfod yma, buont fyw am rai blynyddau yn Boon's Patent, yr hwn le a elwir yn awr Trenton, swydd Oneida, yn y Dalaith hon, sef Caerefrog Newydd. Yr oedd y lle y pryd hwnw yn anialwch, ac yn cael ei ystyried yn bellafnod y gorllewin.

Oddeutu y flwyddyn 1801, neu 1802, daothant i'r dref hon (Albany), ac yma a thref Bethlehem y buont yn cyfanneddu o hyny allan hyd eu beddau.

Bu iddynt wyth o blant, tri o ba rai sydd eto'n fyw. Bu farw Mr. Edward Lloyd yn y flwyddyn 1812.

Gwnaeth Mrs. Lloyd broffes o grefydd yn fuan ar ol priodi. Ymunodd ag Eglwys yr Annibynwyr, yn nhref Caernarfon, yr hon oedd dan fugeiliaeth y Parch. George Lewis, D. D. Daeth ei chrefydd yn ddiau gyda hi i wlad y Gorllewin, a hyn fu ei chysur a'i chynhaliaeth yn ei holl dreialon, pa rai nid oeddent ychydig.

Rboddes ei Beibl mawr teuluaidd i'w hwŷr, Robert Williams, (yr hwn, yn nghyd a chwaer iddo, a fagesid ganddi, ar ol marw ei mam hwy a'i merch hithau.) ar yr ammod iddo ymrwymo i ymaflyd yn y gwaith o'i llaw hi cyn ei symud, gan olygu y cymerai hyny le yn fuan.

Bu hyn ychydig fisoedd cyn ei hymadawiad, galwodd ef o'r neilldu; taer erfyniodd, ac annogodd ef yn y modd mwyaf difrifol a thyner, i gymeryd y gorchwyl arno, ac y byddai yr Arglwydd gydag ef. Y mae ei Beibl yn dyst o'i llafur yn ei chwilio yr holl nodau sydd ganddi wedi eu gadael ynddo. Darllenodd y Beibl, yn nghyda'i hoff lyfr ' Gorphwysfa 'r Saint,' gan R. Baxter, yn ei salwch diweddaf.

Ystyriai fod ei hamser wedi dyfod i fyny, a theimlai chwant i'w dattod, a bod gyda Christ, a gorphenodd ei gyrfa ar y dydd cyntaf o Ragfyr diweddaf, yn 74 mlwydd oed.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1841