MR. EDWARD ROBERTS, STEUBEN, ONEIDA, NEW YORK.
Y brawd Edward Roberts, gynt o blwyf Talyllyn, Corys, Swydd Feirionydd, Mehefin y 15fed 1840, yn 21 oed, ar ol bod yn broffeswr ffyddlon tros dair blynedd yn mhlith y Wesleyaid, ac yn ddirwestwr selog hyd ei ddiwedd. Tiriodd yn C. N. y 18fed o fis Mai diweddaf. Yn fuan ar ôl cyraedd tŷ ei ewythr William Charles, Steuben, sef yr 20fed o'r un mis, dechreuodd fod yn sâl; - trymhaodd y cystudd i'r fath raddau, nes yr ymddifadwyd ef o'i synwyr yn fuan, a pharhaodd felly nes ei ymddifadu yn gwbl o allu i siarad â neb, oddieithr ychydig eiriau, hyd ei farwolaeth: ond oddiwrth ei ymddygiad crefyddol, ei weddiau, a.y. cyn ei gystudd, yr ydym yn cwbl gredu ei fod heddyw yn gorphwys gyda ei Dduw.Hebryngwyd ei weddillion llygredig i Gapel y Wesleyaid yn Steuben, a prygethodd John Jones ar yr achlysur oddiar 2 Bren. 20 : 1.