MR. GRIFFITH J. ROBERTS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Medi 16eg, bu farw Mr. Griffith J. Roberts (Morfa), plwyf Remsen, yu 89 mlwydd o'i oedran, ar ôl amryw wythnosau o waeledd henaint a'r dyfrglwyf.Claddwyd ef yn Penycaerau yn ochr ei anwyl briod a thair o'i ferched. Ymfudodd yntau o Leyn, Carnarfon, o dyddyn a elwir Morfa, ac felly enwyd yr un modd ei drigfan yma. Buodd yn byw yn y lle y bu farw am tua dwy neu dair a deugain o flynyddoedd. Aeth ef a'i deulu yno i ddechreu pan oedd i gyd yn goed. Gwelodd lawer o galedi fel ag yr oedd pawb y pryd hyny oeddynt yn y cyffelyb amgylchiadau.
Ymddifyrai ef yn fawr, yn ei fywyd, i adrodd treialau ei oes, ac nid ychydig oeddynt, i ddechreu byw yn y coed, heb ail i ddim eiddo. Ond ar ôl llawer o flynyddoedd o ymdrechu, gwellhaodd lawer ar ei amgylchiadau yntau yn y byd hwn; wedi magu y plant a chael rhai o honynut i'w gynorthwyo, gwelsant ddyddiau o lwyddiant bydol a chwanegiad eiddo a chysur. Ond yn nghyd â chystuddiau a thywydd garw y bu hyny. Gwelodd a chlywodd am gladdu ei deulu i gyd ond un mab; ei ferch ef oedd y gyntaf a gladdwyd yn mynwent Penycaerau, ac mae yno ugeiniau amryw wedi eu claddu rhwng claddedigaeth hono a'i eiddo ef ei thad, ac yn eu plith gwelodd gladdu ei anwyl wraig, a dwy o'i ferched, Margaret a Hannah.
Rhagfyr 22ain, diweddaf, bu farw ei fab John yn swydd Oswego. Gorph. 17eg, bu farw ei fab Robert yn Wisconsin, ac yn awr mae yntau gyda hwynt yn y bedd.
Yr oedd yn ddyn gweithgar a llafurus iawn yn mhethau y bywyd hwn, yn dalentog o feddwl a dawn, i gofio ac adrodd llawer o'r Bibl a hanesion da eraill. Ond er galar i feddwl, treuliodd y 80 mlwyddyn ei oes trwy holl wahanol amgylchiadau ei daith, heb ymuno â chrefydd; er y dangosai lawer o barch i grefydd, wrth ymddyddan am grefydd pobl eraill, yn enwedig pobl grefyddol yr hen wlad.
Gadawodd ei unig fab ac ychydig wyrion i alaru ar ei ôl, pa rai sydd yn byw yn yr hen gartref mewn sefyllfa dda a manteisiol i fywyd crefyddol a defnyddiol. Gobeithiwn y bydd yr holl gystuddiau ac angau sydd wedi eu cyfarfod yn ddiweddar, yn eu hanwyl berthynasau, yn fendith i weled gwagedd y byd hwn yn fwy, a gogoniant y trysor yn y nef.
Gweinyddwyd yn yr angladd gan y brodyr Owen Parry, Richard W. Jones a'r ysgrifenydd.
MORRIS ROBERTS.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Hydref 1860.
MR. GRIFFITH J. ROBERTS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
In the name of God Amen.I Griffith J. Roberts of the town of Remsen in the County of Oneida and State of New York, being of sound mind and memory and considrering the uncertainty of this frailand transitory life Do therefore make ordain publish and declare this to be my last Will and Testament. That is to say :
First. After all my lawful debts are paid and discharged I give and bequeath to my son Robert Roberts the sum of two hundred dollars which said sum of money I order to be paid to said Robert Roberts or his heirs within one year after my decease if called for.
I also give and bequeath to my two grand daughters Jane Ann Roberts and Hannah Roberts children of my son James Roberts each the sum of Five Hundred dollars tro be paid to each one respectively when they shall attain to the age of eighteen years and in case either of them shall die before the age of eighteen years then I give the share of her so dying unto the survivor of them.
And finally all the rest residue and remainder of my real and personal estate I give and bequeath to my son James Roberts his heirs and assigns forever.
And I do hereby constitute and appoint my said son James Roberts Sole Executor of this my last Will and Testament hereby revoking all former Wills by me made.
In witness whereof I have hereunto subscribed my name and affixed my seal the second day of April in the year of our Lord one thousand eight hundred and sixty.
Griffith J. Roberts.
The above written instrument was subscribed by the said Griffith J. Roberts in our presence and acknowledged by him to each of us and he at the same time published and declared the above instrument so subscribed to be his last Will and Testament and we at the Testators request and in his presence heva signed our names as witnesses hereto and written opposite our names our respective places of residence.
Evan Owens residing in the town of Remsen Oneida County.
Hesekiah J. Owens residing in the town of Remsen.