MR. WILLIAM THOMAS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 24ain, yn Remsen, New York, Mr. William Thomas; (crydd wrth ei gelfyddyd) o 50 i 60 mlwydd oed.

Mab ydoedd i William Thomas, o ardal Pwllheli, Gogledd Cymru. Dyoddefodd gystudd maith a thrwm am bum mis, a llawer o waeledd am flynyddau rai.

Ymfudodd ef a'i briod o Gaernarfon i'r wlad hon. Proffesodd grefydd yno ac yma, ac yr ydym yn hyderu fod y grefydd hono wedi bod yn gysur mawr iddo yn ei gystudd a'i angau, a bod y ffrwyth yn dynu ymaith yr anwiredd. Cafodd ef a'i anwyl briod garedigrwydd mawr gan ei gymydogion a'i ffryndiau yn yr hir gystudd, fel na bu eisiau dim.

Claddwyd ef yn mynwent y Capel Uchaf, Steuben. Gadawodd i alaru ar ei ôl weddw amddifad a ddangosodd y gofal mwyaf am dano drwy yr holl gystudd.

Gweinyddwyd yn ei angladd gan y brodyr J. W. James a'r ysgrifenydd.
MORRIS ROBERTS.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1860.