MRS. BERRY WILLIAMS, PENYMYNYDD, STEUBEN, NEW YORK.
Hydref 3ydd, yn ardal Penymynydd, Steuben, ar ôl rhai wythnosau o gystudd, bu farw Mrs. Berry Williams, priod Mr. Elias Williams, yn 68 mlwydd oed.Yr oedd Mrs. Williams yn ferch i Ellis a Laura Evans, plwyf Llanengan, swydd Gaernarfon. Ymunodd mewn priodas gydag Elias Williams tua'r flwyddyn 1816.
Yn y flwyddyn 1823 daeth dan argyhoeddiadau am ei chyflwr tragywyddol, dychwelwyd hi yn obeithiol at yr Arglwydd, a derbyniwyd hi yn aelod o eglwys Gynulleidfaol Sardis, ger Capel Helyg, dan weinidogaeth y Parch. Joseph Davies, yr hyn oedd tua blwyddyn cyn derbyniad ei phriod yn aelod o'r un eglwys. Symudodd y teulu yn fuan i fyw yn ymyl Capel Helyg, lle yr unasant eu dau yn aelodau yno, dau weinidogaeth y Parch. Evan Rowlands.
O'r lle hwn yr ymfudodd y tetilu i'r America, a chyrhaeddasant borthladd Efrog Newydd, Awst 19, yn y flwyddyn 1831. Daethant yn mlaen, a phrynasant le i wneud eu cartref, yn ardal Penymynydd, Steuben, lle y treuliodd weddill ei thymor ar y ddaear. Derbyniwyd hi a'i phriod, y pryd hyny, ar eu llythyr o gymeradwyaeth o Gapel Helyg, yn aelodau o eglwys Gynulleidfaol y Capel Ucha, Steuben, dan gyd-weinidogaeth y Parchn. William G. Pierce ac Evan Roberts, a phan ffurfiwyd yr eglwys yn Mhenymynydd yr oeddynt yn mhlith y rhai a gyfansoddent yr eglwys hono, a glynodd yn ei phroffes yn ffyddlon a di-gwmwl hyd angau, ac y mae ynom hyder heb un amheuaeth ei bod yn awr wedi cyrhaedd yn ddiogel, trwy ei anfeidrol ras Ef, i undeb tragywyddol â'r eglwys orfoleddus fry.
Yr oedd Berry Williams yn un dra anwyl yn ei theulu, fel priod a mam. Arafwch ei thymer, purdeb ei hegwyddor, a'i gofal mawr; dros ei phriod a'i phlant, a hynodent ei chymeriad yn ei theulu, ac a barai i'r golled fod iddynt yn golled fawr pan symudwyd hi ymaith. Gweddiodd lawer a chynghorodd lawer yn ei theulu, ond y mae'r weddi olaf wedi ei hoffrymu, a'r cynghor olaf wedi ei roi yn awr.
Yr oedd yn gymydoges ddystaw, ddiabsen, dirion a chymwynasgar, ac yn un a hoffid ac a berchid yn fawr yn ei chymydogaeth. Gyda golwg ar ei chymeriad crefyddol, yr oedd yn wylaidd a ffyddlawn. Byddai yn ffyddlawn i ddyfod i foddion gras, hyd a allodd, a hyny yn ngwyneb llawer o waeledd corfforol yn fynych. Yr oedd yn gwrando yn astud a syml, gan ddal ar yr hyn a glywai. Yr oedd yn un dra heddychol yn yr eglwys - gellir dweyd am dani ei bod yn un o "heddychol ffyddloniaid Israel."
Credym ei bod yn gweddio yn fynych yn bersonol dros weision yr Arglwydd. Teimlai yn alarus wrth edrych ar galedrwydd gwrandawyr yr efengyl. Yr oedd yn dra anhyderus yn ei rhinweddau ei hun. Cwynai yn aml na buasai yn dwyn ffrwyth cyfatebol i'w breintiau. Nid oedd yn gweled ynddi ei hun ddim ffrwyth na theilyngdod, ond pob gwaeledd. Eto, er yn ddi-hyder ynddi ei hun, yr oedd ei ffydd a'i hyder yn yr Arglwydd a'i drefn a helaethrwydd a chyfoethogrwydd ei ras yn gadarn a di-ysgog bob amser.
Edrychai gyda hyfrydwch a chysur ar "anchwiliadwy olud Crist," er mor ofnus ydoedd rhag twyllo ei hun yn ei mater mawr tragywyddol.
Buasai yn dda genym allu cofio rhai o'r ymadrodiiion ysgrythyrol a adgofiai yn y gyfeillach grefyddol yn ei misoedd diweddaf. Dyma rai o honynt : -"Simon, mab Jona, a wyt ti yu fy ngbaru i yn fwy na'r rhai hyn?" "At bwy yr awn ni, genyt ti y mae geiriau y bywyd tragywyddol." "Onidoes driagl yn Gilead? onid oes yno Phisygwr? paham na wellha iechyd merch fy mhobl?" "Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon, a.y." "Deffro di yr hwn wyt yn cysgu a.y." "Am hyny byddwch chwithau barod, canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn." Adroddai ei theimladau gyda dwysder mawr, â chalon friwedig, a'r dagrau yn dylifo dros ei gruddiau yn gyffredin.
Yn ei chystudd diweddaf, gan edrych ar ei phlant yn eu dagrau, dywedai fod yn dda iawn ganddi eu bod oll ar yr enw mawr. "Ond O!" dywedai, "y mae arnom oll eisiau bod yn fwy ymdrechgar a ffyddlawn a selog gyda chrefydd, a thros ei enw mawr Ef," neu eiriau cyffelyb. Gofynodd ei phriod iddi, ychydig cyn ei hymadawiad, a oedd hi yn meddwl ei bod yn caru yr Iesu? Dywedai yn ddi-floesgni ac mewn iaith gref, "O ydwyf, O ydwyf, yr wyf yn ei garu yn fwy nag erioed." Tystiai mai lle tlawd i ymofyn am grefydd ydyw gwely angau. Ffarweliai a'i chyfeillion o Floyd pan ymwelsant â hi y tro diweddaf, yn gariadlawn a sobr iawn, heb ddysgwyl eu gweled mwy ar y ddaear.
Hunodd yn dawel yn yr Iesu ar y dydd a enwyd uchod. Gadawodd brio a pbedwar o blant (dau fab a dwy ferch) amryw wyrion ac wyresau, a lluaws o gyfeillion tirion yn alarus ar ei hol.
Claddwyd hi yn mynwent Penymynydd, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan R. Everett. oddiwrth Phil 1: 23; a thrachefn llefarwyd ar yr achlysur oddiwrth 1 Cor. 13: 9—12.