MR. DANIEL WILLIAMS, GLYN, GER CAMBRIA, WISCONSIN.

Bu farw gwrthddrych ein cofiant Mai 14eg, 1860, yn 87 mlwydd oed. Gellir cofnodi dau beth am blant dynion yn gyffredinol, sef eu genedigaeth a'u marwolaeth. Ond gan nad yw y naill na'r llall dan reolaeth dyn ei hun, nid ydynt ynddo ef na rhinwedd na gwaeledd - nid oes ynddynt ddim i ereill i'w ochel na'i efelychu - dibwys ydynt, ond yn eu cysylltiad a'r cyfhod rhwng y ddau, a'r dull eu treulir. Ystyriwn fod yn mywyd Daniel Williams, hynodion teilwng o'u cofnodi. Heblaw iddo gael hir ddyddiau, cafodd hefyd freintiau gwerth eu dymuno, ac yr oedd ynddo ragoriaethau gwerth eu hefelychu. Nid amcanwn grybwyll ond ychydig o'r pethau oedd ynddo yn hynod; ie, hynod ragor dynion duwiol yn gyffredin.

Ychydig gafodd y fraint o dreulio diwrnod mor hir yn ngwinllan Crist. Ymunodd a'r T. C, yn Llanllyfni, yn y flwyddyn 1790, sef pan yn 17 mlwydd oed; a phriodol yw ystyried fod crefydd y pryd hwnw yn dra gwahanol i'r hyn ydyw yn awr, oblegid eithriad ac nid rheol oedd arddel Crist y dyddiau hyny. Syndod oedd gweled un yn yr oedran hwnw yn cefnu ar ei gyfoedion gwamal, ac ag arferion yr oes i fwrw ei goelbren yn mysg ychydig o bobl druain tlodion oedd yn wrthddrychau gwawd y lluaws. Cafodd hefyd y fraint o redeg yr yrfa grefyddol yn ddifwlch a diddolur, nes huno yn yr angau. Bu yn y winllan am yr yspaid maith o 70 o flynyddoedd. Cafodd ei gynal yn ddi-gwymp nes cwympo i'r bedd. Bu hefyd i raddau yn wasanaethgar gydag achos Crist yn ei dymhor. Ar farwolaeth ei dad (yr hwn fel yr ymddengys oedd yn un o bedwar yn cychwyn yr achos gyda'r T. C, yn Llanllyfni, a'r hwn hefyd oedd yn Ysgrifenydd yr eglwys) dewiswyd ei fab, Daniel Williams, i'r swydd hono yn ei le ef, a gwasanaethodd eglwys Llanllyfni fel Ysgrifenydd yn ddiwyd a thra boddhaol am yr yspaid maith o 40 mlynedd, sef hyd ei ymadawiad a'r lle i ddod i'r wlad hon, yn y flwyddyn 1847.

Peth arall a brawf fod ganddo hoffder mawr mewn pethau crefyddol, ydyw iddo gadw cofnodiad eglur a threfnus o bob pregeth a draddodwyd yn nghapel y T. C, yn Llanllyfni, o Chwefror 20fed, 1791, hyd Ebrill 11, 1817, sef am 56 o flynyddoedd, gan nodi yr amser, y genad, y testyn, a.y.; ac y maent yn gwneyd i fyny gyfrol helaeth, wedi ei hysgrifenu yn dda, a'i chadw yn lân. Cynwysa amryw filoedd o destynau. Mae yn awr yn meddiant ei blant yn y wlad hon, a phriodol yr ystyriant hi yn drysor gwerthfawr.

Nid ymddengys i Mr. Williams erioed fod yn ŵr ymadroddus, nac yn gymaint am siarad â llawer, ond yr oedd yn feddylgar ac yn dra chofus. Parhaodd hefyd yn dra hôff o ddarllen hyd o fewn ychydig i'w ddiwedd; a pheth hynod yn ei hanes ydyw iddo gael llewyrch ei lygaid yn wastadol, fel na bu erioed mewn anghen cymhorth gwydrau. Darllenai yn ei flynyddoedd olaf lyfrau o lythyren fân am oriau olynol heb drafferth.

Ni ddiangodd D. W., trwy'r byd heb brofedigaethau, er iddo gael ei ffafrio yn fwy na llawer. Profedigaeth chwerw iddo ef, yn gystal a'i blant, oedd claddu ei briod mewn dyfrllyd fedd, wrth groesi y Werydd i'r wlad hon. Ond cafodd yn ei brofedigaeth brawf o ffyddlondeb yr Hwn a addawodd, "megys dy ddydd y bydd dy nerth." Cafodd gartref cysurus yn ei henaint gyda'i blant, y rhai sydd yma yn byw mewn llawnder.

Yr oedd arwyddion eglur er's rhai misoedd fod ei babell bridd yn cyflym adfeilio, ac amser ei ymddatodiad yn nesâu, ac yr oedd ei feddwl yn gystal a'i gorph yn aeddfedu i'r cyfnewidiad. Nid rhyw glefyd a achlysurodd ei farwolaeth - nid gwynt cystudd a ddiffoddodd ei ganwyll, ond bu farw o henaint têg - llosgodd ei ganwyll i'r gwaelod - diffoddodd fflam einioes am fod y defnyddiau i'w phorthi wedi darfod.

Ymadawodd yn dawel i fyned i "wlad sydd well i fyw." Dechreuodd yrfa bywyd yn Llanllyfni, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1773. Dechreuodd yrfa crefydd yn yr un lle 17eg o flynyddoedd wedi hyny, a gorphenodd y ddwy yrfa gyda'u gilydd yn nhŷ ei fab, o'r un enw ag yntau, yn y flwyddyn 1860. Gan mai yno y treuliodd ei flynyddoedd olaf, i ran Mrs. Williams yn benaf y syrthiodd ei ymgeleddu yn ei waeledd, yr hyn a wnaeth yn dyner a gofalus.

Claddwyd ef yn mynwcnt Cambria, gydag arwyddion o barch, a theimladau o anwyldeb a hiraeth. Yr oedd tyrfa fawr wedi ymgynull i ddangos eu cydymdeimlad a'r byw, a'u parch i'r marw, drwy ei hebrwng i'r bedd. Gweinyddwyd ar yr achlysur yn y tŷ ac wrth y bedd gan John J. Evans, Rees Evans, a William. R. Jones.
REES EVANS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphennaf 1860.