MR. DAVID WILLIAMS.
Medi 20fed. pan y gweithiai un o'r enw David Williams yn Llech-gloddfa Moser and Williams, daeth cwympiad o ddaiar arno, gan ei lethu i farwolaeth yn ddiatreg.Bu ei gydweithwyr oddeutu 15 munud cyn ei gael allan. Yr oedd wedi ei archolli yn drwm.
Brodor ydoedd o ardal Dinorwic, Llanddeiniolen, swydd arfon, Gogledd Cymru; yn flaenorol o le o'r enw Bryn Teg, yn yr un plwyf.
Gadawodd yr ymadawedig wraig a baban, (yr hwn nid oedd ond ychydig o wythnosau oed) i alaru a theimlo eu dirfawr golled ar ei ôl - un o'r dynion hynawsaf a serchocaf a allasid ddymuno. Nid oedd ond ychydig fisoedd er pan daeth y teulu hwn drosodd o Gymru. Gweinyddwyd ar achlysur y gladdedigaeth gan Mri. Thomas Williams (T.C.) a Griffith Jones (A.) Pregethodd yr olaf oddiar Salm. 50: 15.