MRS. GWEN WILLIAMS, PROSCAIRON, WISCONSIN.
Mawrth 21, 1860, yn ardal Proscairon, oddiwrth effeithiau anwyd trwm, Mrs. Gwen Williams, priod Mr. John Williams, Tŷ Coch.Ganwyd a magwyd Mrs. Williams yn y Garnedd, Dolwyddelen, Gogledd Cymru.
Wedi iddynt briodi, treuliasant y rhan fwyaf o'u hamser mewn tyddyn a elwir Tal-y-waen, ger Ebenezer, cymydogaeth y chwareli, Sir Gaernarfon, ac yno y buont, yn deulu parchus, hyd adeg eu hymfudiad i'r Dalaeth, a'r ardal hon.
Yr oedd yn un o dymher deimladwy a serchog. Yr oedd yn un dra ffyddlawn yn dilyn moddion gras, ac addunedodd lawer ymuno a'r eglwys. Gan ei bod yn adeg o adfywiad crefyddol yn ein hardal y misoedd hyn, yr oedd Mrs. Williams yn teimlo yn ddwys; a thybir, pe cawsai estyniad oes, y buasai yn dwyn ei haddunedau yn hyny i weithrediad. Arwyddai yn ei chyfyngder olaf ryw dynerwch meddwl at Geidwad pechadur, a dywedai ryw bethau ag yr ydynt yn gysur i deimladau trallodos ei phriod, a'i phlant. Ond er pob peth, brenhin braw a orchfygodd, ac ni adawodd ond y corph gwael i'r perthynasau.
Dydd Sadwrn canlynol, ymgynullodd tyrfa hardd i ddangos eu cydymdeimlad â'r teulu trallodus, ac i hebrwng y corph i dŷ ei hir gartref.
Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Thos. H. Roberts, G. Jones, a W. R. Jones, Cambria. Da genym weled goruchwyliaethau chwerwon yn gweithio o dde, er agosau y trallodus at Dduw, fel y bu y tro hwn i'r priod galarus. Yr Arglwydd a'n nertho oll i ymnerthu yn nghadernid ei allu ef.